Penllanw’r prosiect tair blynedd fydd perfformiad o ‘Sneb yn Becso Dam, drama gerdd newydd wedi ei selio ar record hir Edward H Dafis o’r un enw. A heddiw (Gwener, 4ydd o Dachwedd), ar drothwy penwythnos cyntaf o ymarfer y criw yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog, cyhoeddir manylion y daith sef:
- Theatr y Lyric, Caerfyrddin nos Fercher, 11eg o Orffennaf,
- Sherman Cymru, Caerdydd nos Wener 13eg o Orffennaf
- Pafiliwn, Rhyl nos Lun y 16eg o Orffennaf.
Disgwylir dros 60 o ieuenctid o bob rhan o Gymru i fod yn rhan o’r cynhyrchiad gyda’r helyw ohonynt yn mynychu’r cwrs cyntaf – o ddydd Gwener i ddydd Sul – sy’n rhan o raglen gynhwysfawr o ymarferion rhwng mis Tachwedd a mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf.
Dywed Cyfarwyddwr y Cwmni Theatr, Jeremy Turner, "Wrth gychwyn cynllyn tair blynedd gyfredol y cwmni theatr, gosodes sawl bwriad gan gynnwys galluogi aelodau’r cwmni i hyfforddi o dan arweiniad amrywiaeth o artistiaid creadigol proffesiynol, defnyddio arddulliau perfformio cyfoes - rhai ohonynt yn arddulliau ‘ anghonfensiynol’ neu answyddogol sy’n rhan o fywyd cyfoes pobl ifanc a dangos fod modd creu theatr gyfoes a deinamig wrth ddefnyddio deunydd Cymraeg.
"Rwy’n falch iawn, felly, bod cwmni Sain ac aelodau’r band Edward H Dafis wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio’r albwm ‘Sneb yn Becso Dam fel sail ar gyfer cynhyrchiad cenedlaethol y cwmni yn 2012. Mae’r caneuon yn son am y tyndra sydd yn wynebu pobl ifanc wrth ddewis rhwng bywyd y dref a bywyd cefn gwlad, rhwng gwarchod etifeddiaeth a llunio Cymru gyfoes yr unfed ganrif ar hugain; bydd hyn sail trafodaeth ddifyr gan holl aelodau’r cwmni, yn bobl ifanc ac yn staff proffesiynol."
Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, "Mae prosiect y Cwmni Theatr yn un cyffrous dros ben ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld ffrwyth eu llafur y flwyddyn nesaf. Fe fydd y cwrs preswyl cyntaf yma yn gosod sylfaen gadarn i’r Cwmni wrth iddynt weithio at y cynhyrchiad arbennig yma fydd yn rhoi gwedd newydd ar albwm sydd mor gyfarwydd i ni."
Bydd tocynnau ar gyfer ‘Sneb yn Becso Dam ar werth gan y theatrau ac am fwy o wybodaeth am y Cwmni Theatr gofynnir i unigolion gysylltu â steffanprys@urdd.org.
Mae Cwmni Theatr yr Urdd yn rhan o Rym y Fflam a ariennir gan Legacy Trust UK, sy’n dathlu’r Olympiad Diwylliannol yng Nghymru a chreu treftadaeth o Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd Llundain 2012.
Diwedd
Cyswllt: Non Tudur Williams ar 07976 003341 / nontudur@urdd.org
- Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012 ar gaeau Coleg Glynllifon rhwng 4 a 9 Mehefin 2012
- Yn 2013 bydd yr ŵyl yn ymweld â Sir Benfro ac yn 2014 bydd ym Meirionnydd
- Urdd Gobaith Cymru yw prif fudiad ieuenctid Cymru.
- Mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd penigamp i blant a ieuenctid Cymru ers dros 80 mlynedd.
- Mae gan yr Urdd oddeutu 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed.
- Sefydlwyd yr Urdd er mwyn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg a magu hyder a pharch tuag at ei gilydd a phobl eraill yn y byd.
- Mae gweithgareddau’r Urdd yn cynnwys teithiau, chwaraeon, eisteddfod, cylchgronau, adrannau ac aelwydydd a gwersylloedd.