Nod Camau Creadigol yw gwerthfawrogi a dathlu cyfoeth pob diwylliant a phobl yn y Gymru sydd ohoni a thrwy hon gwnawn y canlynol:
- Cael creu a chyflwyno ystod ehangach a safon uwch o waith celfyddydol gan ystod ehangach o bobl
- Cael rhagor o bobl i brofi a mwynhau'r gwaith hwnnw
Gwnawn hyn drwy'r canlynol:
Cefnogi artistiaid a sefydliadau o ystod o gefndiroedd i ddatblygu eu gwaith
Eu cefnogi wrth greu cysylltiadau â lleoliadau a phobl eraill a all fod o gymorth wrth arddangos eu gwaith
Mae gennym weledigaeth o Gymru'n wlad lle gall bob math o bobl fwynhau'r celfyddydau yn gynulleidfaoedd, yn ymgyfranogwyr ac yn artistiaid. Caiff ystod eang o artistiaid gyfle i greu gwaith amrywiol, perthnasol i bob math o bobl a chymunedau.
Mae gan artistiaid Cymru'r posibiliad i ddod â dimensiwn newydd i'r gwaith a gefnoga'r Cyngor. Cydnebydd Camau Creadigol fod rhai artistiaid wedi wynebu rhwystrau wrth ddatblygu eu gwaith. Mae'r rhaglen ddatblygu hon i artistiaid allu dymchwel y rhwystrau hyn.
Mae'n agored i bob artist, sefydliad neu grŵp yng Nghymru. Ond ei diben yw estyn ystod yr artistiaid a'r sefydliadau a gaiff ein harian. Felly chwiliwn am y rhai sy'n cynhyrchu gwaith difyr ond heb gael arian gennym yn y gorffennol.
Sefydlir y rhaglen mewn dau gam. Erbyn hyn mae Camau Creadigol 1 yn agored gan gynnig cyfle i artistiaid a sefydliadau drafod eu syniadau gyda ni a sut y gellir eu datblygu. Gallai Camau Creadigol 1 roi arian ar gyfer cyngor ac arweiniad i helpu artistiaid a sefydliadau i wneud y canlynol:
- Datblygu eu syniadau creadigol
- Datblygu ochr busnes eu gwaith
- Cysylltu â rhwydweithiau newydd a datblygu partneriaethau
- Dod o hyd i lwyfannau addas ar gyfer eu gwaith
Bydd cyflawni hyn yn dibynnu ar yr hyn sydd arnoch ei angen i ddaearu eich syniad yn gadarn. Mae'n rhaglen hyblyg.
Cyhoeddwn sut y gweithia Cam 2 o'r rhaglen yng Nghanllawiau'r Loteri yn Chwefror 2012.
Am fanylion llawn, darllenwch y ddogfen:
Creative Steps