Cyngor Celfyddydau Cymru | British Dance Edition Llundain 2012
Nôl at y rhestr newyddion

British Dance Edition Llundain 2012

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn arddangos doniau celfyddydol Cymru yn un o ddigwyddiadau dawns amlycaf y DU 16 Ion 2012

British Dance Edition Llundain 2012

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn dod ynghyd yn ystod mis Chwefror er mwyn arddangos doniau celfyddydol Cymru yn nigwyddiad amlycaf byd y ddawns yn Llundain.

Bydd CDCCymru yn cyflwyno un o’i ddawnsfeydd mwyaf poblogaidd sef By Singing Light gan Stephen Petronio yn British Dance Edition Llundain 2012, sef ffenest siop y DU o’r gorau o ddawnsio ym Mhrydain gan arddangos gweithiau sydd wedi ennill clod y beirniaid a chyrraedd lefelau uchel o ragoriaeth.

Mae By Singing Light yn seiliedig ar farddoniaeth Dylan Thomas In My Craft or Sullen Art ynghyd â rhan o Lament ac fe’i crewyd gan y coreograffydd byd-enwog o’r Unol Daleithiau Stephen Petronio ar gyfer CDCCymru yn 2010.

Bydd Corws Cenedlaethol Cymru y BBC yn perfformio’r sgôr gwreiddiol gan y cyfansoddwr Son Lux, sy’n cynnwys dau o weithiau gan y cyfansoddwr Cymreig diweddar Mansel Thomas – Pe Cawn i Hon a Ar Lan y Môr.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig Ann Sholem: Bu’n fraint i ni gael ein dewis i berfformio mewn digwyddiad sydd â’r fath fri ac i gael dangos By Singing Light i gynulleidfa ryngwladol. Mae gan Gymru nifer fawr o draddodiadau artistig balch a gwn y bydd ein prosiect ar y cyd gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn swyno pobl."

Cynhelir y perfformiad yn Neuadd y Frenhines Elizabeth yng Nghanolfan Southbank Llundain ddydd Sadwrn 4 Chwefror am 7.45pm mewn rhaglen ar y cyd gyda Chwmni Dawns Richard Alston.

Mae’r British Dance Edition yn lwyfan rhyngwladol i arddangos y gorau o fyd y ddawns ym Mhrydain; yn 2012 fe’i cynhelir am y tro cyntaf yn Llundain. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ill dau yn gwmnïau trigannol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio rhychwant o ddawns cyfoes wedi ei greu gan goreograffwyr sydd wedi eu sefydlu eu hunain yn rhyngwladol yn ogystal a gweithiau gan goreograffwyr dawnus newydd o Gymru. Mae’n gwneud hynny mewn lleoliadau canolig a mawr led-led Cymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. O dan gyfarwyddyd Artistig Ann Sholem, mae’r Cwmni yn creu a pherfformio coreograffi ysbrydolgar o safon gyda’r gorau yn y byd, ac sy’n cael ei berfformio gan ddawnswyr sydd â phresenoldeb a charisma.

Am ragor o wybodaeth yna cysylltwch â: Clare Nedin, y Swyddog Marchnata a Chyhoeddusrwydd ar 029 2063 5610.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245