Sefydliad elusennol gydag ymrwymiad i hyrwyddo talentau cerddorol yw Canolfan Gerdd William Mathias, wedi'i lleoli yn nhref hynafol Caernarfon.
Mae'n cynnig cyfleon gwych i ddysgu cerddoriaeth, ac wedi sefydlu'i hun fel Canolfan o ragoriaeth o fewn y gymuned, drwy gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Cynhelir gwersi unigol ar ystod eang o offerynnau, Dosbarthiadau Meistr cyson, cyngherddau a chyrsiau ar amrywiaeth eang o bynciau.