Cyngor Celfyddydau Cymru | David Pountney yn cyflwyno rhaglen newydd Opera Cenedlaethol Cymru
Nôl at y rhestr newyddion

David Pountney yn cyflwyno rhaglen newydd Opera Cenedlaethol Cymru

Mae David Pountney, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig newydd OCC, wedi lansio rhaglen uchelgeisiol o gynyrchiadau newydd. 03 Chwef 2012

David Pountney yn cyflwyno rhaglen newydd Opera Cenedlaethol Cymru

Wrth gyflwyno’r manylion am ei ddau dymor cyntaf wrth y llyw yn OCC, roedd Mr Pountney yn pwysleisio pwysigrwydd mentro a bod yn anturus er gwaethaf yr heriau economaidd sydd o’n blaenau. Bydd OCC yn llwyfannu wyth cynhyrchiad newydd yn ystod 2012 - 2014, yn ogystal â thymhorau thema i geisio agor trafodaeth a dadl ynglŷn â’r rhaglen operâu clasurol a chyfoes. Hefyd yn cael ei lwyfannu’n arbennig bydd trioleg o operâu Donizetti yn cyflwyno cythrwfl ac ysblander cyfnod y Tuduriaid.

"Mae dod adre yma i OCC lle dechreuais ym 1976 yn adeg gyffrous i mi, ac o ddechrau 2013 mae fy nghynlluniau artistig yn dechrau dod yn glir," meddai Mr Pountney. "Gobeithio y byddan nhw hefyd yn dangos pam roeddwn i am ddychwelyd at y cwmni hwn, sydd â photensial rhyfeddol i fod yn bencampwr safon artistig ac uchelgais.

"Mae blwyddyn OCC yn cynnwys tri thymor, ac rwy’n anelu at roi i bob un o’r rhaglenni hyn thema a nod wahanol. Mae gosod ein gwaith yng nghyd-destun eang diwylliant a syniadau Ewropeaidd – ac mae opera’n uchafbwynt mor rhagorol o’r rheiny – hefyd yn helpu i wneud ein diben yn glir yn ein gwlad

falch ein hunain yng Nghymru. Mae hynny’n wir hefyd am ddinasoedd yn Lloegr mae gennym berthynas mor agos a pharhaol â nhw."

Dyma rai o uchafbwyntiau’r rhaglen:

  • Wyth cynhyrchiad newydd, gan gynnwys trioleg o weithiau gan Donizetti (Anna Bolena, Maria Stuarda, Roberto Devereux), Lulu gan Berg, Manon Lescaut gan Puccini a Boulevard Solitude gan Henze.
  • Nodi daucanmlwyddiant geni Wagner gyda chynhyrchiad newydd o Lohengrin a’r perfformiad llwyfan cyntaf yn y DG o’r opera acwsteg drydan gan Jonathan Harvey, Wagner Dream.
  • Tymhorau i arddangos corws nodedig OCC, gan gynnwys cynhyrchiad newydd o Nabucco a’r perfformiad cyntaf yn y DG o Moses and Aaron, a berfformiwyd gyntaf gan y Staatstheater yn Stuttgart.
  • Canmlwyddiant geni Benjamin Britten yn cael ei nodi gan gynhyrchiad newydd o Paul Bunyan gan Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.
  • Cyfres uchelgeisiol ac eclectig o gyngherddau gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a Lothar Koenigs, y Cyfarwyddwr Cerdd, yn cynnwys gweithiau gan Zemlinsky, Berg, Wagner, Alma Mahler, Gustav Mahler, Bruckner a Henze.
  • Datblygu gwaith arloesol OCC yn Birmingham gyda phobl sydd â dementia. Mae hyn wedi’i gydnabod yn ddiweddar gan y Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245