Cyngor Celfyddydau Cymru | Theatr Torch

Ychwanegwch fi at y Cyfeiriadur Celf!

Mewngofnodi / Cofrestru
Yn lle ydych wedi'ch lleoli?
Theatr Torch
Theatr Torch
Heol San Pedr
Aberdaugleddau
SA73 2BU
Sir Benfro
Manylion cyswllt
Karen Lewis
01646 694192
karen@torchtheatre.co.uk
www.torchtheatre.co.uk
Cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Ffilm (Ffilm Cymru Wales)
Sefydliad Refeniw

Gwybodaeth

Untitled User Untitled User
Sefydlwyd Theatr y Torch ym1977 ac mae’n un o ond tair theatr cynhyrchu wedi ei selio mewn adeilad parhaol yng Nghymru ochr yn ochr gyda Theatr Sherman Cymru yng Nghaerdydd a Chlwyd Theatr Cymru.

Y syniad cychwynnol oedd menter gymunedol fychain gyda chyswllt gyda Chanolfan Addysg bellach a oedd ynghlwm a’r adeilad, ond oherwydd poblogrwydd sydyn, daeth ymestyniad yn anochel ac fe ddaeth yn syniad llawer mwy o faint.

Cynlluniwyd y theatr gan bensaer lleol, Monty Minter gydag un prif awditoriwm o 297 o seddi at gost o £500,000.

Yn 2006 cychwynnodd y theatr ar ailddatblygiad gwerth £5miliwn ac fe’i cwblhawyd yn 2008 gyda dau ofod perfformio gan gynnwys y Brif Theatr a Theatr Stiwdio ar gyfer 102. Mae’r Torch newydd hefyd yn gartref i gaffi, galeri a sinema ddigidol man eithaf ei grefft gyda gallu 3D.

Cynhyrchiad cyntaf mewnol Cwmni Theatr y Torch oedd Relatively Speaking gan Alan Ayckbourn yn Nhachwedd 1977. Ers hynny, mae’r ochr gynrychiadol wedi mynd ati i greu 167 cynhyrchiad, gan gynnwys sioeau sydd wedi teithio’n rhyngwladol ac wedi perfformio yng Ngŵyl Caeredin.

Mae Theatr y Torch bellach yn cynnig dros 900 o sioeau, ffilmiau, arddangosfeydd arlunio a darllediadau byw yn flynyddol i gynulleidfaoedd o dros 70,000.

Theatr y Torch yw unig theatr broffesiynol a chyfadeilad celfyddydau, sydd wedi ei ariannu’n bennaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Benfro.

Digwyddiadau

RSS Ni ddarganfuwyd digwyddiad sy'n cyfateb i'ch chwiliad

Swyddi a chyfleoedd

RSS Ni ddarganfuwyd swydd neu gyfle sy'n cyfateb i'ch chwiliad

Prosiectau rhyngwladol

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245