Bydd Natya STEM yn cyflwyno Vajra (Diamwntiau), sef cynhyrchiad aml-gyfrwng sy’n defnyddio Kathak, - arddull ddawns glasurol o’r India - sy’n cyfuno crefft ymladd a dawns gyfoes er mwyn creu dehongliad barddonol o ddeuoliaeth diemwntau a goleuni. Bydd y daith yn amlygu hefyd Sanjog, sy’n defnyddio chwech o ddawnswyr Kathak er mwyn arddangos purdeb a hyfrededd yr arddull ddawns yma a fu’n ffynhonnell o ysbrydoliaeth ar gyfer creu’r fflamenco.
Cychwynnodd y berthynas hon sy’n dwyn y dwyrain a’r gorllewin ynghyd rhwng CDCCymru a STEM yn ôl ym mis Awst 2010 trwy gyfrwng grant oddi wrth y Cyngor Prydeinig; ym mis Rhagfyr 2011 croesawyd CDCCymru i’r India gan STEM. Perfformiodd y Cwmni yn nhair o ddinasoedd mwyaf India a rhannu ei frwdfrydedd am ddawns o’r safon uchaf trwy gynnal gweithdai gyda myfyrwyr y ddawns yn lleol, hwyluso trafodaethau a thynnu ffotograffau o ddawns.
"Mae’r berthynas barhaus sydd gennym gyda Natya STEM Dance Kampni yn darparu mewnwelediad diddorol iawn i ddiwylliannau dawns gwledydd eraill. Mae’r daith yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd o Gymru weld y perfformiad prydferth a chymhellgar hwn," meddai Cydymaith Artistig a sylfaenydd CDCCymru Roy Campbell-Moore.
Mae perfformiad STEM yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd yn rhan o dymor Cwrdd â’r Artist Gweld y Gelfyddyd sy’n rhoi cyfle i gynulleidfaoedd weld celfyddyd mewn cyd-destun agos atoch. Gellir gweld rhaglen gyflawn y tymor o fynd at ndcwales.co.uk. Mae taith STEM i Gymru yn ymweliad cyfnewid a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Cymru Rhyngwladol.
Mae’r daith yn ymweld â Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar 30 Ebrill; Canolfan Gelfyddydol Taliesin, Abertawe ar y 3ydd Mai; y Tŷ Dawns, Caerdydd ar Fai’r 5ed; Canolfan Gelfyddydol y Muni, Pontypridd ar Mai’r 9fed a Theatr y Stiwt, Wrecsam ar Fai’r 11eg.