Bydd cyfnodau Michael Griffiths, Melanie Hawthorne, Dr Lesley Hodgson, Marian Wyn Jones ac Andrew Miller yn dechrau 1 Ebrill 2012 ac yn para am dair blynedd. Mae’r swyddi oll yn ddigyflog.
Yn rhinwedd eu swydd fel aelodau o’r bwrdd bydd eu rôl yn cynnwys pennu amcanion ar gyfer y Cyngor a sicrhau bod yr amcanion hyn, a hefyd y rhai a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu cyflawni. Mae gan y Bwrdd, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, y pŵer hefyd i benodi Prif Weithredwr petai angen.
Ymhlith eu dyletswyddau eraill fydd cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Cyngor gan sicrhau gwerth am arian a gweithio’n effeithlon ar yr un pryd.
Dywedodd Huw Lewis: "Mae gan bob un a benodwyd brofiad proffesiynol a diddordeb personol yn y celfyddydau. Mae’n dda gennyf eu penodi i Gyngor Celfyddydau Cymru ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw yn ogystal â’r aelodau presennol yn ystod y blynyddoedd i ddod."
Mae Michael Griffiths yn ymgynghorydd addysg ac yn gyn-Bennaeth. Mae hefyd yn aelod o nifer o bwyllgorau eraill Llywodraeth Cymru.
Melanie Hawthorne yw Swyddog Datblygu Creadigol Prifysgol Morgannwg ac mae wedi gweithio ar draws nifer o ddisgyblaethau’r celfyddydau yn ogystal â bod yn aelod o fwrdd Comisiwn Sgrîn Cymru.
Mae Dr Lesley Hodgson yn un o sylfaenwyr GATES Morgannwg, Prosiect Celfyddydol Cymunedol ym Merthyr Tudful. Mae hefyd yn Is-Gadeirydd Gŵyl Pentref Byd-eang Merthyr Tudful.
Marian Wyn Jones yw cyn-Bennaeth Canolfan y BBC yng Ngogledd Cymru ac mae ei gyrfa fel newyddiadurwraig yn rhychwantu tri degawd. Ar hyn o bryd mae’n Ymgynghorydd y Cyfryngau ac yn aelod o nifer o gyrff cyhoeddus ac ymddiriedolaethau elusennol.
Andrew Miller yw’r Pennaeth Rhaglenni Creadigol yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Cymru ond cyn hynny’n bu’n gweithio i Gyngor Celfyddydau Lloegr. Cafodd hefyd yrfa hir ym maes teledu fel cyflwynydd, cynhyrchydd a chyfarwyddwr.
Dywedodd Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae bob amser yn drist pan ddaw cyfnod aelodau gwerthfawr a phrofiadol o Gyngor y Celfyddydau fel yr Is-Gadeirydd Dr Ian Rees, Robin Morrison a Deborah Wilcox i ben.
"Mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn hyrwyddwr ac yn llysgenhadon penigamp i’r celfyddydau yng Nghymru. Bu eu cyfraniad i waith manwl y Cyngor yn amhrisiadwy a dymunwn yn dda iddynt oll yn y dyfodol.
"Wrth estyn ein diolch iddynt hwy a hefyd ffarwelio â nhw, fodd bynnag, rydyn ni ar yr un pryd yn croesawu pum aelod newydd y gwnaeth eu harbenigedd a’u brwdfrydedd heintus gryn argraff arnom drwy eu ffurflen gais a’u cyfweliadau. Bydd eu sgiliau a’u harbenigedd yn ein helpu ni i wireddu nod Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru sef y dylai celfyddydau uchel eu safon fod ar gael i bob cymuned yng Nghymru a dylent fedru cael budd ohonynt.
"Edrychwn ymlaen at eu croesawu’n ffurfiol fel Aelodau o’r Cyngor yn ystod cyfarfod o’r Cyfarfod i’w gynnal ym mis Mai."
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Sian James ar 02920 441344 neu ebostiwch: sian.james@celfcymru.org.uk