Gwahoddwn geisiadau gan gydweithwyr sy’n gweithio mewn rolau dysgu ac addysg ym maes y celfyddydau i gymryd rhan yn Rhaglen Arweinyddiaeth Extend 2012-13. Bydd Extend yn cefnogi hyd at 15 o gydweithwyr sydd yng nghanol eu gyrfaoedd. Nod y rhaglen yw rhoi’r hyder a’r sgiliau i gyfranogwyr ddatblygu i fod yn arweinwyr gwell yn y dyfodol. Gall hynny fod trwy gael swydd fel arweinydd neu drwy gyflawniadau sy’n codi statws y proffesiwn yn gyfan gwbl.
Rydym wedi ymestyn y dyddiad cau i 10am dydd Llun 16 Ebrill 2012
Rydym wedi sicrhau cymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr er mwyn darparu rhaglen arweinyddiaeth i gydweithwyr sy’n gweithio ym maes dysgu ac addysg yn y sector celfyddydol a diwylliannol rhwng 2012 a 2015. Yn 2012-13, mae Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi darparu cymorth ychwanegol i gefnogi cyfranogiad gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn yr Alban ac yng Nghymru.
Gan ystyried adborth y cynllun peilot, bydd Extend yn cynnig:
- Dadansoddiad anghenion hyfforddi
- Dwy raglen breswyl, gan gynnwys siaradwyr gwadd a sesiynau ar eiriolaeth ac ymgyrchu
- Mentora
- Prosiect ar y cyd i gyfranogwyr
Mae Extend ar agor i weithwyr proffesiynol sydd yng nghanol eu gyrfaoedd (sydd un ai mewn gwaith neu’n hunangyflogedig) sy’n gweithio ym maes dysgu ac addysg yn y sector celfyddydol a diwylliannol ac sy’n byw ac yn gweithio yn Lloegr, yr Alban neu yng Nghymru. Cyfeiriwch at y wybodaeth i ymgeiswyr am y meini prawf llawn.
Am fanylion llawn, gan gynnwys sut mae gwneud cais, lawrlwythwch y ddogfen gwybodaeth i ymgeiswyr fan hyn: http://www.engage.org/downloads/Extend_info_for_applicants.doc
Mae modd lawrlwytho ffurflen gais fan hyn: http://www.engage.org/downloads/Extend_2012_application_form.doc
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Rheolwr Extend, Dawn Cameron ar 07753 748038 / 0113 216 6331 neu drwy anfon neges e-bost at extend@engage.org.
engage in the