Ers 2007, pan ffurfiwyd Sherman Cymru wedi i Theatr y Sherman Cyfyngedig a Sgript Cymru Cyfyngedig uno, ‘rydym wedi derbyn cryn glod am y gwaith ‘rydym wedi ei gynhyrchu ac wedi ennill gwobrau yn gyson yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae’r cwmni’n ymdrechu i greu’r theatr gorau bosib; i gyflwyno rhaglen nodedig ac amrywiol i’n cynulleidfaoedd; i sicrhau fod ein cymunedau’n chwarae rhan allweddol yn y broses greadigol o greu theatr; ac i wneud cyfraniad parhaol tuag at ddatblygiad cenedlaethol a rhyngwladol y theatr yng Nghymru.
Yn ganolog i’n gwaith mae ymrwymiadau i ddatblygu ac i gefnogi gwaith awduron Cymreig ac awduron sy’n byw yng Nghymru, i feithrin awydd pobl ifanc i brofi theatr, ac i annog datblygiad artistiaid newydd y genhedlaeth nesaf.