Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw un o wyliau cystadleuol celfyddydol ieuenctid mwyaf Ewrop sy'n atynnu miloedd o gystadleuwyr ac ymwelwyr bob blwyddyn. Yn 2012, bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar dir Coleg Meirion Dwyfor Glynllifon ger Caernarfon rhwng 4ydd a'r 9fed o Fehefin ac fe fydd ffocws arbennig i gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg yr Eisteddfod.
Y thema eleni fydd Symud, Cyffro neu Dathlu, thema sy’n ddrych i fwrlwm y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Nghymru. Mae’n destun sy’n siŵr o ddal dychymyg y 10,000 o blant a phobl ifanc fydd yn cystadlu mewn dros 160 o gystadlaethau.
Yn ystod tymor yr Hydref fe fydd y cystadleuwyr yn cychwyn ar y gwaith o ddylunio a chreu’r darnau, o waith gwehyddu i ffotograffiaeth a chrochenwaith i enwi ond ychydig.
Yn dilyn cystadlaethau cylch a rhanbarthol fe fydd y gwaith buddugol yn cael ei feirniadu fis Ebrill 2012 ac yna eu harddangos mewn Pafiliwn arbennig ar faes yr Eisteddfod.
Am restr lawn o’r testunau neu i gystadlu ewch i www.urdd.org/eisteddfod