Cyngor Celfyddydau Cymru | Mzansi Cymru Canolfan Mileniwm Cymru 20/07/2012

Ychwanegwch fi at y Cyfeiriadur Celf!

Mewngofnodi / Cofrestru

Crëwn gynhyrchiad theatr gymunedol ar raddfa fawr sy'n cyflwyno cannoedd o bobl gyffredin i brofiad anghyffredin sy'n dathlu'r talentau a'r diwylliannau pobl hen ac ifanc o Gymru a De Affrica. Bydd amryw seren ynghlwm wrth y perfformiad megis y trwmpedwr o Dde Affrica, Claude Deppa.

Ar y tîm creadigol o Gymru mae Paula Gardiner sy'n Gyfarwyddwr Cerddorol a Chyfansoddwr a Sarah Cole o Gynyrchiadau SC (The Passion ym Mhort Talbot).

1964 oedd man cychwyn y dramodydd, Laurence Allan, pan garcharwyd Nelson Mandela a ffilmiwyd Zulu yn Ne Affrica.

Canolbwynt ei stori yw actor ifanc o Gymru a merch Swlw sy'n cyfarfod â'i gilydd ac ymserchu yn ei gilydd ar set ffilm, ond sy'n cael eu gwahanu gan apartheid nes i'w stori gael ei datrys yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain.

Msanzi Cymru | Trashion ShowArchwilia'r prosiect themâu oesol cariad, colled, gorthrwm, gwaredigaeth a buddugoliaeth yr ysbryd dynol. Dilynwn ffawd y ddau a phrofi eu diwylliannau cyfoethog a gwahanol drwy ddrama, cân, dawns, cerdd a syrcas.

Bu cannoedd o bobl yn y Cymoedd yn ymgyfranogi o'r gweithdai a'r sioeau teithiol cyn i'r perfformiad gyrraedd ei ffurf derfynol.

Bydd sêr o dreflannau De Affrica yn bartneriaid gan gynnwys: Dawns i Bawb, Syrcas Sip Sap, Côr Fezeka, Ffilharmonig Ieuenctid y Penrhyn ac Amampondo. Cynhelir prosiectau ffotograffiaeth a chelfyddydol ar yr un pryd a deuir o hyd i dalentau newydd o'r gymuned a'i meithrin.

Ar lwyfan enwog Donald Gordon y cyrraedd y perfformiad hwn ei benllanw mewn cynhyrchiad ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru.

Dyddiadau Cymru:

20 Gorffennaf 2012 - Perfformiad yn y prynhawn a'r noswaith
21 Gorffennaf 2012 - Perfformiad Mawr

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245