Celf Gyhoeddus a Hunan-drefnu
Prifysgol Fetropolitanaidd Abertawe
Dydd Llun 25 Mehefin 2012
9.30yb hyd 4.30yp
Siaradwyr:
- Anthony Gross, Cyfarwyddwr, The Old Police Station, Llundain.
- Vaari Claffey, Curadur, Gracelands, Dromahair.
- Jeanne van Heeswijk, Artist, Rotterdam.
- David Hastie, Cyfarwyddwr, LOCWS Rhyngwladol, Abertawe.
Bydd y digwyddiad hwn yn archwilio gwahanol fodelau hunan-drefnu o fewn arfer celf gyhoeddus gyfoes. Bydd yn archwilio: seiliau rhesymegol a thactegau ar gyfer dechrau arni; strwythurau cymdeithasol, economaidd a threfniadol; a strategaethau ar gyfer gweithgareddau goroesi a chynhaliol.
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer artistiaid, curaduron a chynrychiolwyr sefydliadau celfyddydol.
Cost: £10 yn cynnwys lluniaeth a chinio. Mae cyfyngiad ar y niferoedd.
Celf Gyhoeddus ac Adfywiad
Prifysgol Glyndwr, Wrecsam
Dydd Mercher 4 Gorffennaf 2012
9.30yb hyd 4.30yp
Siaradwyr:
- Kathrin Böhm, Artist, public works, Llundain.
- Nuno Sacramento, Cyfarwyddwr, Scottish Sculpture Workshop, Lumsden.
- Christoph Schäfer, Artist, Park Fiction, Hamburg.
- Mick Wilson, Artist, Awdur, Addysgwr ac Ymgynghorydd i Breaking Ground, Dulyn.
Bydd y digwyddiad hwn yn hyrwyddo trafodaeth ynglyn ag arferion celf gyhoeddus enghreifftiol sydd wedi eu datblygu mewn ymateb i gynlluniau adfywio. Bydd yn archwilio sut y mae artistiaid, curaduron a chomisiynwyr wedi ymateb i’w cyd-destunau penodol, gan yn aml ddefnyddio gwrth-strategaethau fel modd o wrthsefyll camddefnydd, tra’n rhoi cyfrif am eu cymunedau drwy ddulliau sydd wedi’u canolbwyntio’n lleol.
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb neu sy'n ymwneud â chelf gyhoeddus a chynlluniau adfywio.
Cost: £20 yn cynnwys lluniaeth a chinio. Mae cyfyngiad ar y niferoedd.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau ac i archebu lle ewch i: http://ixia-info.com/events/next-events/