Mae Bagad Pibau Morgannwg yn grŵp cymunedol pibau, sy’n cynnal gweithdai misol yn Theatr Soar, Merthyr Tudful. Mae’r bagad yn bodoli i hyrwyddo ac annog y traddodiad pibau a’r pibgorn yng Nghymru, a cherddoriaeth Gymreig draddodiadol ar gyfer y pibau a’r pibgorn, trwy weithdai a pherfformiadau cyhoeddus.