Dyfarnwyd y bariton Gary Griffiths, sy’n byw yng Nghaerdydd, ond yn wreiddiol o Ben-bre, fel dewis y beirniaid i gipio’r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig yng Nghaerdydd, a’i cynhaliwyd yn Neuadd Dewi Sant. Fe fydd Gary nawr yn cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd sydd i’w gynnal o’r 16 - 23 o Fehefin 2013.
12 Mehef 2012
Dywedodd Gary, "Y mae wedi bod yn uchelgais mawr i mi i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd ac rwyf wrth fy modd. Y mae ennill y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig wedi bod yn anhygoel, ond mae’n rhaid talu teyrnged hefyd i’r terfynwyr eraill a chanodd mor rhyfeddol."
Mae’r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig wedi ei anelu at gantorion ar ddechrau eu gyrfa broffesiynol ac eleni pedwar o rai a gyrhaeddodd y rownd derfynol o hyd a lled Cymru, a’i dewiswyd o glyweliadau yng Nghaerdydd a Llundain, fu’n cystadlu am y safle arbennig.
Y tri arall oedd Rhian Lois o Bont-rhyd-y-groes, Ceredigion (soprano), Fflur Wyn o Gaerfyrddin (soprano) a Sioned Gwen Davies o Fae Colwyn (mezzo-soprano).
Mae cyn-enillwyr Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig yn cynnwys enwogion fel Bryn Terfel ym 1988 a Gwyn Hughes ym 1996.
Y beirniaid ar gyfer y rownd derfynol oedd Rebecca Evans, Della Jones, Donald Maxwell a John McMurray dan arweiniad Julian Smith.
Derbyniodd yr enillydd wobr o £2000 a thlws gan y Welsh Royal Crystal, â’r tri arall yn derbyn gwobr o £750 yr un.
Dywedodd Gillian Green, Cyfarwyddwr Live Music Now Cymru Wales, "Llongyfarchiadau mawr i Gary ar berfformiad bendigedig a swynodd y gynulleidfa a’r beirniaid ynghyd. Mae’r gystadleuaeth wedi dangos unwaith eto'r talent sydd gennym yng Nghymru a rydw i am un yn edrych ymlaen yn fawr i weld Gary yn cystadlu yn 2013 am deitl Canwr y Byd Caerdydd."