Mi fydd y cwmni’n teithio gyda chomedi gwreiddiol am grŵp o bobol sy’n awyddus i brofi natur ar ei wylltaf mewn lleoliadau awyr agored o gwmpas y Gogledd.
Yn dilyn cyfnod o gydweithio gydag awdur o’r Iseldiroedd, Madeleen Bloemendaal, ar ei drama ‘Man op Tak’, fe fydd y cynhyrchiad yn dilyn helyntion doniol pump o unigolion sydd wedi ymgynnull dros benwythnos i fyw fel anifeiliaid. Peth od ydi trefnu i fynd yn wyllt ac mae ambell un yn llawer mwy parod i fynd yn ôl at natur na’i gilydd. Beth bynnag ddigwyddith, anghofian nhw byth mo’r profiad - yn naturiol.
Yn ol Madeleen Bloomendal "Mae dod i Gymru wedi ‘Cymregeiddio’ hiwmor ‘Ga’ i fod..?" yn llwyr, ond ar yr un pryd mae’r themau’n parhau i fod yn rhyngwladol ac yn berthnasol i bawb – hyd yn oed os nad ydych yn deall yr iaith. I mi mae hyn yn bwysig: darganfod yr hyn sy’n gyffredin i’r gynulleidfa beth bynnag eu cefndir."
Dywedodd Bryn "Mae pobol yr un fath ymhobman, ond beth am anifeiliaid? Mae’n gynhyrchiad corfforol, gweledol a hwyliog sy’n dweud cyfrolau am fodau dynol. Mae wedi bod yn bleser pur cyd-weithio a Madeleen".
Cyfarwyddwyr: Madeleen Bloemendaal a Bryn Fôn
Actorion: Rhian Cadwaladr, Iwan Charles, Carys Gwilym, Mared Elliw Huws, Merfyn Pierce Jones.
LLEOLIAD Y CYNHYRCHIAD:
Parc Glynllifon: Llandwrog, Ger Caernarfon Nos Fercher – Nos Sadwrn 11 o Orffennaf – 14 o Orffennaf 7.30 y.h. Matinee: prynhawn Sadwrn 14 o Orffennaf 3.00 y.p.
Tŷ Henblas, Bodorgan, Ynys Môn
Nos Fercher – l8 o Orffennaf - 21 o Orffennaf 7.30y.h. Matinee: prynhawn
Sadwrn 21 o Orffennaf 3.00 y.p.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bara Caws www.theatrbaracaws.com