Aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru.
Richard Turner yw Rheolwr Prosiect Canolfan Fenter ac Arloesi mewn Addysg, Academi Fyd-eang Prifysgol Cymru.
Mae’n bartner ac yn Gyfarwyddwr Cwmni Ymgynghori Mentrau Creadigol ac yn ymgynghorwr, hyfforddwr a darlithydd ar ei liwt ei hun mewn entrepreneuriaeth greadigol, arloesi a rheoli’r celfyddydau. Mae hefyd yn Gadeirydd Celfyddydau Cymunedol Rhyngddiwylliannol De Cymru (SWICA) ac yn Reolwr Busnes Kaya Festival Ltd.
Cyn hynny roedd yn Reolwr Cymru y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau (NESTA), a bu’n gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru fel Pennaeth ei raglenni Celfyddydau i Bawb a swyddog Datblygu Strategol Uwch.
Bu’n Gyfarwyddwr Celfyddydau Amlddiwylliannol Caerdydd a’r Ardal (CADMAD) ac yn Gyd-Sylfaenydd Syrcas Nofit State yng Nghaerdydd. Nid oes ganddo unrhyw benodiadau cyhoeddus Gweinidogol eraill.
Nôl at y rhestr o Aelodau >>