Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn sylweddoli bod ganddo rôl amlwg mewn cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg o fewn y celfyddydau.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi mabwysiadu’r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae'n Cynllun Iaith Gymraeg yn nodi sut y bydd y Cyngor yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.
Cyrff Allanol
Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn annog sefydliadau nad ydynt wedi'u hymrwymo i Ddeddf yr Iaith Gymraeg i weithredu o fewn ysbryd y Ddeddf. Gwneir hynny drwy wahodd sefydliadau yn eu ceisiadau i ystyried sut y byddant yn adlewyrchu natur ddwyieithog y gymuned maent yn gweithredu ynddi a’r cynulleidfaoedd maent yn eu targedu.
Mae'r Cyngor yn cynnal cyfarfodydd Adolygu Blynyddol ffurfiol â phob un o’i brif dderbynwyr grantiau refeniw ac adolygir eu defnydd o’r Gymraeg yn eu gweithgareddau yn ystod y trafodaethau hyn.
Monitro
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi sefydlu Grŵp Monitro’r Iaith Gymraeg o sy’n cynnwys Cadeirydd a staff sy’n cynrychioli pob adran o waith y sefydliad, a chyfrifoldeb y grŵp hwn yw monitro ac adolygu gweithrediad y cynllun.
Bydd y corff hwn yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn adrodd i Brif Weithredwr a Thîm Rheoli Hŷn y Cyngor, ac yn cynnig argymhellion iddynt.