Cyngor Celfyddydau Cymru | Pawb a’i Stori

Pawb a’i Stori

06 Maw 2012

Dosbarth Meistr Celfyddydau a Busnes Cymru. Cefnogir gan BBC Cymru Wales

Dydd Mawrth 6 Mawrth 2012 (10am - 12pm) | Wrecsam

Dydd Iau 8 Mawrth 2012 (10am - 12pm) | Eversheds, Caerdydd

Mae BBC Cymru Wales yn eich gwahodd chi i weithdy i gael gwybod mwy am gyfathrebu’n effeithiol. Os ydych chi am wella’r ffordd rydych yn cyfleu eich neges i’r cyfryngau, mae BBC Cymru Wales yn cynnig cyfle gwych i gael gwybod mwy. Mewn dau weithdy i’w cynnal yn Wrecsam a Chaerdydd, bydd staff yn trafod:

  • Y ffordd mae gwneuthurwyr rhaglenni newyddion a rhaglenni cyffredinol BBC Cymru Wales yn gweithredu
  • Y pethau sylfaenol sy’n gwneud stori newyddion dda
  • Awgrymiadau a chyngor i’ch helpu i hybu eich neges neu llwyddiant.

Bydd pwyslais arbennig ar wella eich sgiliau ffotograffiaeth a fideo i ddod â’ch busnes yn fyw.

Bydd angen i chi ddod ag offer gwneud ffilmiau (e.e. camera fideo, ffôn symudol) i’r sesiwn yma.

Pris

£35.00 a TAW i aelodau. £50.00 a TAW y rheiny nad ydynt yn aelodau.

Am fanylion cysylltwch
029 2030 3023
contactus@aandbcymru.org.uk

artsandbusiness.org.uk/Events.aspx

Oherwydd haelioni BBC Cymru Wales, mae cost y cwrs wedi ei gymhorthdal yn fawr a dim ond yn cynnwys y costau a dynnir gan C&B Cymru yn trefnu ac yn cynnal y sesiwn. Mae BBC Cymru Wales yn cymryd rhan fel arwydd o ewyllys da a nid yw’n derbyn unrhyw arian.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245