Cyngor Celfyddydau Cymru | Cynorthwyydd Swyddfa - Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Cynorthwyydd Swyddfa - Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

06 Chwef 2012

£11,856 pro rata. 16 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Iau 4 awr y dydd (39 wythnos dros gyfnod absenoldeb mamolaeth)

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwmni dawns cyfoes sy’n teithio ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Yn ogystal â bod yn Gwmni sy’n dawnsio ar y prif lwyfannau, mae’r Cwmni wedi meithrin ystod eang o weithgareddau er mwyn hyrwyddo datblygiad proffesiynol, gwaith estyn allan a chyfranogi ac yn llwyr ymrwymedig i feithrin rhagoriaeth yn y cyfan y mae’n ei wneud.

Wedi ei leoli yn y Tŷ Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, bydd y Cynorthwy-ydd Swyddfa yn cynorthwyo a chefnogi y gwaith o ddydd i ddydd o redeg a gweinyddu gweithgarwch a threfniadau’r Cwmni.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 9am dydd Llun 6ed Chwefror 2012. Cyfweliadau i’w cynnal dydd Iau, 9fed a dydd Gwener 10fed Chwefror 2012.

Am becyn ymgeisio, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

Nia Siân Jones, Swyddog Gweinyddu a Phrosiectau ar 02920 635600 ynteu anfonwch e-bost at info@ndcwales.co.uk

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245