Cyngor Celfyddydau Cymru | Comisiwn Celf Cyhoeddus - Lôn Pencoedtre, Y Barri

Comisiwn Celf Cyhoeddus - Lôn Pencoedtre, Y Barri

09 Chwef 2012

Mae Taylor Wimpey plc yn dymuno apwyntio artist i gynllunio a chreu cyfres o weithiau celf ar gyfer datblygiad tai newydd yn Lôn Pencoedtre yn Y Barri, Bro Morgannwg.

Mae datblygiad Lôn Penocoedtre wedi ei leoli rhwng Ffordd Pencoedtre a Ffordd Ddwyreiniol Port ar gyrion Y Barri, a bydd yn cynnwys 67 o gartrefi newydd, yn ogystal a chae chwarae newydd ar randir o 81,480 o droedfeddi.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud marc creadigol ac unigryw ar cynllun tai newydd cyfoes. Mae gofynion y comisiwn yn ddeublyg: creu cerfluniau mynedfan i ddau fynedfa cerddwyr i'r safle ar Ffordd Ddwyreiniol Port, a chreu gweithiau celf ar gyfer ffens y cae chwarae.

Bydd peth ymgynghori a chynal gweithdai ysgol yn rhan o'r broses gynllunio i ddatblygu themâu, yn ogystal â'r cynllun ar gyfer ffens y cae chwarae.

Cyllideb: Mae cyfanswm o £56,800 + taw, ar gyfer y prosiect i gynnwys y cyfan o'r ffioedd cynllunio a holl gostau ffabrigo, paratoi'r safle a gosod y gwaith.

Gellir gweld y briff cyfan ar www.celfwaith.co.uk

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mererid Velios 02920750992 mererid@celfwaith.co.uk

Dyddiad cau: Dydd Iau 9fed o Chwefror 2012

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245