Cyngor Celfyddydau Cymru | Uwch Gydgysylltydd Cyfleusterau a Gweithrediadau

Uwch Gydgysylltydd Cyfleusterau a Gweithrediadau

17 Chwef 2012

37 awr yr wythnos gan gynnwys gwaith gyda’r hwyr ac ar benwythnosau

£25,472 - £29,236 (Gradd H) Cyf.: 015363

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am benodi rhywun i’r uwch-swydd hon er mwyn paratoi ar gyfer cwblhau ei ganolfan newydd sef y Ffwrnes yn Llanelli ym mis Hydref 2012. Hefyd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn ei fannau cynnal eraill sef Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin a Theatr y Glowyr yn Rhydaman.

Bydd yr Uwch Gydgysylltydd Cyfleusterau a Gweithrediadau yn arwain tîm technegol, a bydd yn gyfrifol am reoli’n effeithiol o ddydd i ddydd gweithgareddau a threfniadau’r gweithrediadau a’r cyfleusterau technegol, yn cynnwys diogelwch, rotâu staffio, asesiadau risg iechyd a diogelwch, gwerthuso staff, adnoddau ariannol ac adeiladau, cyllidebau dirprwyedig a pheiriannau a systemau, gan sicrhau y caiff effeithlonrwydd a buddiannau Gwasanaeth Hamdden y Cyngor a chwmnïau gwadd eu diwallu.

O fis Ebrill tan fis Tachwedd 2012 bydd y dyletswyddau’n ymwneud yn benodol â helpu i sefydlu’r Ffwrnes yn Llanelli. Mae’r swydd hon yn cael ei chyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch a Carwyn Matera-Rogers drwy ffonio 01554 774057.

Bydd archwiliad o gofnodion troseddol yn ofynnol i’r swydd hon.

Dyddiad Cau: 17eg Chwefror, 2012

Mae ffurflenni cais ar gael oddi wrth 01267 234567 neu e-bost galw@sirgar.gov.uk

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245