Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru rydym yn gweithio o fewn fframwaith strategol a gytunir gan Lywodraeth Cymru.
Strategaeth
Amlinellir ein cyfeiriad strategol, ynghyd ag adnoddau ariannol Llywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen gytûn o waith, yn ein Llythyr Cylch Gwaith blynyddol.
Strwythur
Penodir gan Gyngor Celfyddydau Cymru nifer o bwyllgorau i ddarparu cyngor arbenigol a gwneud penderfyniadau o fewn fframwaith o bwerau dirprwyedig.
Egwyddorion a Safonau
Mae’r ffordd y caiff ein gwasanaethau eu darparu o ddydd i ddydd fel corff cyhoeddus yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion arweiniol. Mae rhain yn cynnwys ein polisiau didwylledd a’n polisiau corfforaethol.
Rydym yn darparu adroddiadau mewnol ar ein perfformiad yn erbyn ein safonau gwasanaeth, ac adroddiadau allanol i’n prif fuddsoddwr, Llywodraeth Cymru.