Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru bob amser yn cadw at y safonau uchaf mewn ymagwedd ddiduedd, hygrededdedd a gwrthrychedd yn ei stiwardiaeth o arian cyhoeddus a'i reolaeth o gyrff eraill.
Yn unol â'i bolisi o wneud ei waith gyda'r safon uchaf o onestrwydd, effeithlonrwydd ac ymagwedd agored, mae'r Cyngor wedi cymeradwyo'r Cod Arfer Gorau hwn.
Safonau'r Cyngor
Mae'r Cod yn nodi'r safonau sydd yn ofynnol - ac y mae gan y cyhoedd hawl i'w disgwyl - gan bawb sy'n rhan o fusnes Cyngor Celfyddydau Cymru, gan cynnwys:
- Aelodau'r Cyngor
- aelodau o'r Pwyllgorau
- Rhestr Genedlaethol o Ymgynghorwyr
- staff Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae hefyd yn nodi rhai gweithdrefnau a gynlluniwyd i roi ar waith yr egwyddorion a ymgorfforir yn y Cod Arfer neu i roi hawliau penodol i aelodau'r cyhoedd.
Cyrff sy'n Debyn Cyllid
Gyrrir copi o'r Côd i bob corff a gyllidir gan refeniw y Cyngor ac fe'i rhoddir yn ôl y gofyn i unrhyw un arall sy'n derbyn grant.
Mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru hefyd Gôd Ymarfer ar gyfer Sefydliadau sy'n Cael Cyllid. Dim ond trwy gydweithio â sefydliadau ac unigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol y gellir gweithredu'r polisi hwn ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn disgwyl bod y rhai sy'n derbyn grantiau yn gweithredu polisïau cyfle cyfartal effeithiol ac yn defnyddio'r Cod Ymarfer hwn fel canllaw.