Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithredu polisi o ddidwylledd yn y ffordd y mae'n cynnal ei fusnes.
Cynhaliodd Cyngor Celfyddydau Cymru ymgynghoriad ar ddidwylledd yn ystod Gwanwyn 1998 gan gyhoeddi adroddiad o’r canlyniadau yn ystod haf 1998.
Mae'r Cyngor yn gweithredu’n unol â gofynion deddfwriaeth bresennol Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac egwyddorion Côd Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Fynediad y Cyhoedd at Wybodaeth.
Fel rhan o’n hymrywmiad i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 rydym yn gweithredu Cynllun Cyhoeddi sydd wedi cael sêl bendith y Comisiynydd Gwybodaeth. Dyma arweiniad i’r mathau o wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi’n rheolaidd ar sail weithredol ac sydd ar gael i’r cyhoedd yn ein swyddfeydd neu ar ein gwefan.
Byddwn yn gweithredu ein busnes yn unol â Deddf Diogelu Data 1998; mae gennym hefyd Bolisi Preifatrwydd sydd yn sicrhau ein bod yn delio gyda'ch gwybodaeth chi yn gywir ac yn gyfreithlon.
Canllaw i Wybodaeth