Cychwynnir, rheolir a monitrir gwaith y Cyngor gan y Cyngor ei hun a chyfres o bwyllgorau y dirprwya’r Cyngor rymoedd penodol iddynt.
Mae pwyllgorau yn ddarostyngedig i’r Cyngor yn y strwythur llywodraethu. Heblaw am y grymoedd dirprwyedig, mae gan y pwyllgorau swyddogaeth ymgynghorol.
Adroddant i’r Cyngor ar berfformiad y gweithgareddau perthnasol i gylch gwaith pob pwyllgor. Mae'r pwyllgorau yn dod ag unrhyw faterion sy’n achosi pryder neu feysydd lle y gellid gwella at sylw’r Cyngor.
Mae tri phwyllgor â grymoedd dirprwyedig:
Bydd tri grŵp ymgynghorol yn adrodd i'r Cyngor hefyd:
- Grŵp Monitro Cydraddoldebau
- Grŵp Monitro’r Gymraeg
- Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yn Fenis
Mae pob pwyllgor yn cynnwys Aelodau’r Cyngor ac unigolion sydd wedi eu cyfethol, ac maent yn gweithredu dan gylch gwaith penodol.