Pwyllgor ymgynghorol i Gyngor Celfyddydau Cymru.
Cylch Gorchwyl
Adolygir a chymeradwyir Cylch Gorchwyl Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yn Fenis yn flynyddol. gwnaed hyn ddiwethaf gan Gyfarwyddwr Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru yn Hydref 2012.
Rôl y Pwyllgor
Diwygiwyd y paramedrau canlynol gan Gadeirydd Pwyllgor Cymru yn Fenis ym Medi 2008, yn seiliedig ar newidiadau a gytunwyd ar 25 Ebrill 2008, ac a ddiwygiwyd ymhellach ar 10 Chwefror 2009 ar gais y pwyllgor.
Yn sgil Adroddiad Cyfarwyddwr y Celfyddydau i'r Cyngor ar Gymru ym Miennale Fenis yn Chwefror 2010 a chytundeb y Cyngor ar yr alwad agored arfaethedig am gyflwyno cynigion i bresenoldeb 2011 yn Fenis, dyma ddiwygio'r cylch gorchwyl felly.
Adlewyrchant yn awr y ffordd ddiweddaraf o gynnal ein presenoldeb yn Fenis yn sgil cytundeb y Cyngor yn Rhagfyr 2011 i'r broses ddethol arddangosfeydd y dyfodol yn y Biennale.
Mae'r pwyllgor ymgynghorol, dan gadeiryddiaeth aelod o'r Cyngor, i gynnwys o leiaf ddau ymgynghorydd cenedlaethol a chynrychiolwyr Artes Mundi ac Adran Gelfyddydol yr Amgueddfa Cymru.
Darllenwch y Cylch Gorchwyl llawn i wybod rhagor am rôlau Grŵp Ymgynghorol Cymu yn Fenis.