Cyngor Celfyddydau Cymru | Syrcas

Syrcas

Digwyddiadau ar y gweill

View all events

Dydd Gwener 21 Mehef 2013

Gŵyl Ysgeifiog

Gŵyl Ysgeifiog
Neuadd Bentref Ysgeifiog
Ysgeifiog
CH8 8TA

Yn 2013, bydd Ysgeifiog yn cynnal gŵyl tri diwrnod lle bydd amryw o berfformiadau ac arddangosfeydd celfyddydol.

Dydd Llun 08 Gorff 2013

Gwobrau 2013 Celfyddydau & Busnes Cymru

Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
CF105AL

Lanswyd Celfyddydau & Busnes Cymru ei 20fed seremoni wobrwyo flynyddol ar y 7fed o Chwefror 2013.

Astudiaethau Achos

Latest Resources

Artistiaid a Sefydliadau

Pori neu chwilio pob proffil
Tudalen 1|2|3

Cyswllt Celf

Sefydliad celf cymunedol ysbrydol yw Cyswllt Celf, sy’n gweithio yng Ngogledd Powys ac ar hyd y cymunedau ar y ffin ers 1994.

Untitled User

Theatr Mwldan

Mae Theatr Mwldan yn ganolfan cyflwyno a chynhyrchu bywiog sydd wedi ei lleoli yn Aberteifi, yng nghanol cefn gwlad brydferth Gorllewin Cymru. Gyda ymroddiad tuag at arloesi, gweledigaeth a rhagoriaeth, cafodd Theatr Mwldan ei disgrifio gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel ‘rhagorol’ ac fel ‘model o ymarfer gorau a rhagoriaeth’ am ei gwaith teithio a chynhyrchu. Yn ddiweddar, derbyniodd Theatr Mwldan Gwobr Beacon am 2008 a 2009 o Gyngor Celfyddydau Cymru, un o ond 22 sefydliad y celfyddydau yng Nghymru i dderbyn y gydnabyddiaeth arbennig hon. Mae gan Theatr Mwldan rôl bwysig mewn cyfrannu tuag at adfywiad economeg, cymdeithasol a diwylliannol lleol Aberteifi a’r cyffiniau. Mae Theatr Mwldan yn sefydliad nid-am-elw sy’n cyfuno gweithgaredd economaidd gyda phwrpas cymdeithasol a moesegol. Wrth galon y Mwldan yw’r cred y gall y celfyddydau gyflwyno profiadau gall newid a gwella ein bywyd ac sy’n meddu ar y p?er i newid canfyddiadau a chynyddu goddefiad, torri ar raniadau diwylliannol a chaniatáu mwy o ddealltwriaeth – sydd mor addas ar gyfer y gymuned rydym yn rhan ohoni ag y mae i’r blaned rydym yn byw arni. Mae’r weledigaeth hon wrth wraidd Theatr Mwldan a’i holl weithgareddau

Untitled User

Celfyddydau Anabledd Cymru

Cred Celfyddydau Anabledd Cymru fod gan Bobl Anabl a Phobl Byddar gyfraniad cyffrous a gwerthfawr i'w wneud i'r celfyddydau yng Nghymru. Rydym yn ymroddedig i gydweithio gydag unigolion a mudiadau i ddathlu amrywiaeth celfyddyd a diwylliant Pobl Anabl a Phobl Byddar, a datblygu cydraddoldeb ar draws pob ffurf ar gelfyddyd.

Untitled User

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr, yw'r ganolfan fwyaf o'i math yng Nghymru ac fe'i hystyrir yn genedlaethol fel canolfan flaenllaw ac arloesol ym myd y celfyddydau. Mae ganddi raglen artistig eang, o safbwynt cynhyrchu a chyflwyno, ar draws holl ystod y celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol ac fe'i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu'r celfyddydau. 'Rydym yn croesawu dros 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gan gynnwys dros 100,000 yn mynychu'r celfyddydau perfformio a gweithgareddau yn nodweddu gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol; 236,000 ym ymweld â'r arddangosfeydd a thros 100,000 yn cymryd rhan yn ein rhaglen addysg a chelfyddydau cymunedol unigryw. Yn 2000 cwblhaodd Canolfan y Celfyddydau ail-ddatblygiad gwerth £4.3 miliwn. Yn 2009 bu'n ymgymryd â datblygiad ychwanegol gwerth £1.75 miliwn a ychwanegodd at gyfleusterau'r Ganolfan nifer sylweddol o stiwdios ar gyfer artistiaid a'r diwydiannau creadigol, sydd hefyd yn gartref i'r sawl sy'n cymryd rhan yn rhaglen artistiaid preswyl uchelgeisiol y Ganolfan. Mae'r datblygiad diweddaraf hwn yn golygu bod gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth amrediad o gyfleusterau sydd heb eu hail ym Mhrydain.

Untitled User

Canolfan Gelfyddydau Pontardawe

Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe wedi ennill ei phlwyf fel un o ganolfannau diwylliannol gorau De Cymru. Mae'r theatr hyfryd yn llwyfannu gwaith proffesiynol o'r radd flaenaf, sy'n amrywio o gerddoriaeth glasurol i ddrama a dawns, llenyddiaeth a theatr plant i'r blws a cherddoriaeth byd. Mae rhywbeth at ddant pawb.

Theatr Hijinx

Theatr Hijinx yw un o brif gwmnïau proffesiynol teithio ar raddfa fechan yng Nghymru. O’n cartref yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ’rydym yn teithio gyda theatr wreiddiol, o ansawdd uchel yn Saesneg i gymunedau ar hyd a led y DU, gan gyflwyno storïau a chymeriadau sy’n ddoniol, deimladwy, heriol ac yn codi’r ysbryd. Mae Hijinx wedi ymrwymo’n angerddol i fod ar y blaen wrth gynnwys pobl â phroblemau dysgu yn y celfyddydau ac i greu ystod eang o gyfleoedd am gymryd rhan. Yn 2007 sefydlodd Hjinx Wyl Undod, gwyl ryngwladol y celfyddydau sy’n cyflwyno’r celfyddydau cynhwysol ar eu gorau i lwyfan llawn bri Canolfan y Mileniwm Cymru. Yn 2012 bydd Undod yn cymryd drosodd dau safle gydag un man newydd ar gyfer perfformio ar Stryd y Frenhines yng nghanol Caerdydd. Yn 2012, lawnsiodd Hijinx ddau gwrs hyfforddi wythnosol ar gyfer perfformwyr ag anableddau dysgu: Dewisiadau Creadigol ac Academi Hijinx. Am fwy o fanylion am y naill a’r llall, rhowch alwad ffôn i swyddfa Hijinx ar 02920 300331.

Untitled User

Theatr Brycheiniog

Ar ymyl Camlas odidog Mynwy ac Aberhonddu yn nhref farchnad brydferth Aberhonddu ar odre’r Bannau Brycheiniog, mae Theatr Brycheiniog yn cynnig rhaglen boblogaidd a chlodwiw o gelfyddyd perfformio ac adloniant trwy gydol y flwyddyn. Mae’r cyfleusterau eraill ar safle’r theatr yn cynnwys rhaglen flwyddyn gron o gelfyddydau gweledol gan artistiaid y fro yn Oriel Andrew Lamont a’r bistro enwog Tipple’n’Tiffin. Ariannir Theatr Brycheiniog gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Tref Aberhonddu. Yn ddiweddar, Theatr Brycheiniog oedd y theatr gyntaf yng Nghymru i gael ynni o’r haul gan gynhyrchu cyfran fechan o’r ynni trwy’r celloedd ffotofoltäig a osodwyd yn ddiweddar ar y to. Agorwyd Theatr Brycheiniog yn 1997.

Untitled User

Sherman Cymru

Ers 2007, pan ffurfiwyd Sherman Cymru wedi i Theatr y Sherman Cyfyngedig a Sgript Cymru Cyfyngedig uno, ‘rydym wedi derbyn cryn glod am y gwaith ‘rydym wedi ei gynhyrchu ac wedi ennill gwobrau yn gyson yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r cwmni’n ymdrechu i greu’r theatr gorau bosib; i gyflwyno rhaglen nodedig ac amrywiol i’n cynulleidfaoedd; i sicrhau fod ein cymunedau’n chwarae rhan allweddol yn y broses greadigol o greu theatr; ac i wneud cyfraniad parhaol tuag at ddatblygiad cenedlaethol a rhyngwladol y theatr yng Nghymru. Yn ganolog i’n gwaith mae ymrwymiadau i ddatblygu ac i gefnogi gwaith awduron Cymreig ac awduron sy’n byw yng Nghymru, i feithrin awydd pobl ifanc i brofi theatr, ac i annog datblygiad artistiaid newydd y genhedlaeth nesaf.

Canolfan Mileniwm Cymru

Agorodd Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004 ac mae eisoes wedi meithrin enw iddi’i hun fel un o gyrchfannau celfyddydol a diwylliannol eiconig y Byd. Gweledigaeth y Ganolfan yw bod yn lleoliad diwylliannol rhyngwladol o bwys ac yn ganolfan i'r celfyddydau perfformio, yn enwog am ei hysbrydoliaeth, ei rhagoriaeth a'i harweinyddiaeth. Amdanom Ni Ein Gweledigaeth Yr Adeilad Y Ganolfan yn cyflwyno Hoffwn Ni Ddiolch i... Gwobrau Ein pobl Yr Amgylchedd Cwestiynau Cyffredin am y Wefan Gwaith Ffeithiau ac Ystadegau Amdanom Ni Agorodd Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004 ac mae eisoes wedi meithrin enw iddi’i hun fel un o gyrchfannau celfyddydol a diwylliannol eiconig y Byd. Gweledigaeth y Ganolfan yw bod yn lleoliad diwylliannol rhyngwladol o bwys ac yn ganolfan i'r celfyddydau perfformio, yn enwog am ei hysbrydoliaeth, ei rhagoriaeth a'i harweinyddiaeth. Y Ganolfan yw un o ganolfannau mwyaf unigryw a bywiog Ewrop i'r celfyddydau perfformio, a agorwyd gan Ei Mawrhydi'r Frenhines yn 2004. Edrychwch heibio'r muriau allanol anhygoel, sydd wedi ymddangos ar Torchwood a Dr Who, a chewch brofi awyrgylch gyffrous sy'n gwneud i'n hymwelwyr ddychwelyd aton ni dro ar ôl tro. Rydyn ni'n fwy na theatr. Mae'n hymwelwyr yn dod i fwynhau sioeau cerdd gorau'r West End, opera, ballet a dawns gyfoes, hip hop a digrifwyr, arddangosfeydd celfyddydol, gweithdai, diwrnodau hyfforddi, perfformiadau dyddiol rhad ac am ddim yn y cyntedd, teithiau tywys, bariau a bwytai ... mae rhywbeth at ddant pawb.

Llun/Photo: Phil Boorman

Articulture Cymru

Articulture is a creative organisation that aims to bring together public arts practitioners in Wales to generate and support innovation, collaboration and production of unique outdoor performance and spectacle.

Cynulleidfaoedd Cymru

Mae Cynulleidfaoedd Cymru wedi ei ymrymo ei hun i gynyddu mynediad i’r sector gelfyddydol a diwylliannol yng Nghymru. Ein nod yw: Darparu cefnogaeth marchnata strategol a thactegol, gwasanaethau ac arbenigedd er mwyn galluogi mudiadau celfyddydol i feithrin perthynas adeiladol â chynulleidfaoedd y presennol a’r dyfodol. Rydym yn darparu ystod o wasanaethau marchnata strategol a thactegol i fudiadau celfyddydol proffesiynol, amatur a’r rheini sydd wedi eu lleoli yn y gymuned ynteu i artistiaid. Mae ein holl wasanaethau â’r nod o gefnogi perfformiad busnes mudiadau celfyddydol ac i’w cynorthwyo i ddeall a chyrraedd cynulleidfaoedd, ac i annog lefelau uwch o ymwneud â’r celfyddydau yng Nghymru.

Untitled User

Celfyddydau Cymunedol Gwynedd

Gweithiai Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd i hyrwyddo, cefnogi a datblygu gweithgarwch celfyddydol yng nghymunedau’r Sir. Mae celfyddydau cymunedol yn cynnig cyfleoedd i bawb gyfranogi yn y celfyddydau beth bynnag yw eich profiad, oed neu gefndir. Mae’r Uned yn cydweithio ag amrediad eang o grwpiau cymunedol a gwirfoddol, mewn amrywiol feysydd megis, adfywio, addysg, iechyd a lles ayb. Mae’r celfyddydau cymunedol yn gyfrwng sy’n cynnig cyfleoedd i ... 1. ddatblygu sgiliau 2. gymdeithasu ac ymlacio 3. fod yn hunan-fynegianol 4. adeiladu hyder 5. feithrin ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth 6. feithrin ymdeimlad o hunan ymwybyddiaeth ac o gyflawniad 7. greu a mynegi heb feirniadaeth 8. ddatblygu, rhannu ac arbrofi â syniadau 9. gyfathrebu a mynegi barn 10. gadw’n iach, yn feddyliol ac yn gorfforol

Untitled User

Celfyddydau & Busnes Cymru

Rôl C&B Cymru yw hyrwyddo, galluogi a datblygu partneriaethau cydfuddiannol rhwng busnes a’r celfyddydau. O swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llandudno, mae tîm Cymru’n gweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau, o ymarferwyr unigol i sefydliadau cenedlaethol ac â’r sector preifat, o ficrofusnesau drwodd i gorfforaethau rhyngwladol. Mae i waith C&B Cymru werth profedig yn hinsawdd economaidd gyfredol Cymru. Gellir teimlo ei effaith ar blant, pobl yn y gweithle a chymunedau mawr a mân. Mae C&B Cymru’n gwybod pan fydd busnes a’r celfyddydau’n cydweithio mewn partneriaeth sy’n wirioneddol gydfuddiannol, mae’r ddau’n dod yn gryfach gyda'n cymdeithas yn elwa ar y canlyniadau mewn ffyrdd pellgyrhaeddol a phendant.

Untitled User

Pypedau Vagabondi

Theatr bypedau broffesiynol ydyn ni sy'n darparu adloniant, addysg ac ysbrydoliaeth ledled y bydysawd (ond yn bennaf yng Nghymru ac yn Lloegr.)

Untitled User

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245