Gweledigaeth Cyngor Celfyddydau Cymru yw Cymru greadigol lle mae'r celfyddydau yn greiddiol i fywyd y genedl.
Safon
Rydym yn cefnogi'r broses o greu celfyddyd o ansawdd uchel. Rydym am i Gymru fod yn llawn artistiaid cryf, parhaol, llwyddiannus ac arloesol ynghyd â sefydliadau celfyddydol yn cwmpasu pob math o gelfyddyd, sy'n creu, yn cyflwyno ac yn hyrwyddo gweithgareddau celfyddydol o ansawdd uchel.
Cyfranogi
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl brofi a mwynhau'r celfyddydau. Mae’r cyhoedd yn cael eu hysbrydoli gan ddychymyg a chreadigrwydd, cael eu cyffroi gan uchelgais a'r hyn sy'n wledd i'r llygad, cael eu hudo gan yr hyn sy'n newydd ac yn anghyfarwydd. Mae gennym amrediad o strategaethau sy’n annog cyfranogiad yn y celfyddydau gan yr ystod ehangaf o bobl ledled y wlad.
Hyrwyddo
Rhan o’n gwaith ni yw creu rhaglenni sy’n hyrwyddo celfyddydau Cymreig yn lleol ac yn rhyngwladol yn ogystal â chynyddu hygyrchedd y celfyddydau yng Nghymru. Gan ddefyddio'r dolenni isod, gellir darganfod rhagor o wybodaeth am bob cynllun.
Nod yr adran hon o’r wefan yw bod yn ffynhonnell o wybodaeth am artistiaid a chyrff celfyddydol gweithgar yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnig cymaint ag y medrir am waith Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi Cymru greadigol.