Cyngor Celfyddydau Cymru | Cynllun Casglu
Logo'r Cynllun Casglu

Cynllun Casglu

Yn Gwneud Celf yn Fforddiadwy.


Mae Cynllun Casglu Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi cyfle i chi gasglu gweithiau celf gan artistiad sy'n byw yng Nghymru drwy gynnig credyd di-log*.

Mae dros 80 o orielau ledled Cymru yn gweithredu'r Cynllun Casglu, sydd yn cynorthwyo oedolion 18 mlwydd oed a throsodd i brynu gweithiau celf a chrefft unigryw a wnaethpwyd gan artistiaid sydd dal yn fyw.

Os byddwch yn ymweld ag un o'r orielau sy'n gweithredu'r cynllun ac yn gweld naill ai baentiadau, gwaith arian, gwydr, cerameg, cerflun, gemwaith, rgraffiad, ffotograff neu darn o decstil yr ydych am ei brynu, gallwch gael benthyciad credyd di-log* o £50 i £2,000 ar gyfer prynu unrhyw waith neu grwp o weithiau.

Wedi penderfynu archebu, bydd rhaid i chi wneud blaendal o 10% o'r cyfanswm, a bydd staff yr oriel yn gallu eich tywys trwy'r gwaith papur , a rhoi'r cais am credyd i Gyngor Celfyddydau Cymru ar eich rhan. Mae benthyciadau'n cael eu cadarnhau o fewn saith i ddeng diwrnod.

  • Gellir prynu celf a chrefft o sawl oriel ar y cyd, ar yr amod nad yw cyfanswm eich credyd yn fwy na £2,000
  • Adelir benthyciadau o £50 i £1,000 dros gyfnod o ddim mwy na deg mis
  • Adelir benthyciadau o £1,001 i £2,000 dros gyfnod o ddim mwy na 15 mis
  • Lleiafswm yr ad-daliadau yw £10 y mis
  • Ni ellir defnyddio'r Cynllun Casglu i archebu unrhyw eitem o dan £55

* APR Cynrychioliadol o 0%

Ymweld â gwefan y Cynllun Casglu

Elfyn Lewis - Glan-Erch
Cynllun Casglu

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245