Cyngor Celfyddydau Cymru | Cymru yn Fenis 2013

Cymru yn Fenis 2013

Bu cynrychiolaeth gan Gymru ymhob Biennale er 2003. Dyma grynodeb o'r arddangosfeydd:

2003

Dewiswyd gwaith gan bedwar artist (Simon Pope, Cerith Wyn Evans, Bethan Huws a Paul Seawright) am yr arddangosfa gyntaf Cymru yn Fenis.

2005

Yn yr arddangosfa yn Ex-Birreria Giudecca, Rhywle arall, cyflwynwyd gwaith gan Peter Finnemore, Laura Ford a Paul Granjon. Hefyd roedd preswylfa gan yr artist, Bedwyr Williams, o'r enw Basta (Digon). Roedd yn ganlyniad i bartneriaeth rhwng Cymru yn Fenis a Chywaith Cymru.

2007

Yn 'Ac felly y mae' cafwyd gwaith gan Heather ac Ivan Morrison, Richard Deacon a Merlin James. 2007 oedd y flwyddyn pan ddefnyddiwyd safle Ex-Birreria i'w eithaf.

2009

Dyddiau Du gan John Cale. Lleolwyd y gosodiad sain a ffilm ar bum sgrin a barhâi am 46 munud yn Capannone 1 ar y safle.

2011

Tim Davies. Sefydlwyd Cymru Fenis mewn lleoliad newydd, y Ludoteca yn ardal Castello ar ben y Via Garibaldi rhwng y Giardini a'r Arsenale. Cadarnhawyd mai’r Ludoteca fydd lleoliad Arddangosfa Cymru yn Fenis.

Cefnoga'r Cyngor yr arddangosfa yn y Biennale sydd â'r amcanion canlynol:

  • dathlu amrywiaeth gwaith artistiaid Cymru a werthfawrogir gan feirniaid
  • cynnig cyfleoedd gyrfa wrth drobwynt arwyddocaol i ymgyfranogwyr
  • tynnu sylw at gelfyddyd Cymru, canolbwyntio arni a sbarduno trafodaeth amdani, gan ddyfnhau trafodaeth y beirniaid
  • canolbwyntio diddordeb curaduron ar gelfyddyd Cymru a chynyddu'r sylw iddi ac i artistiaid Cymru
  • darparu profiadau, dyheadau a chyd-destun i artistiaid yn eu gyrfa gynnar (drwy brofi'r Biennale, rhaglenni goruchwylio, canllawiau byw, gwaith addysg a chyfleoedd i rwydweithio)
  • cefnogi'r cyd-destun datblygu i fentrau oriel eraill yng Nghymru
  • hybu ein diwylliant gweledol i gyhoedd Cymru, tanlinellu gwerth gosod ein celfyddyd gyfoes mewn cyd-destun rhyngwladol a sicrhau taenu gwybodaeth am Gymru yn Fenis naill ai drwy arddangosfa sy'n gymar neu weithgarwch ategol arall

Yn sgil trafodaethau gyda Chelfyddydau ac Orielau Gweledol Cymru, dyma sut â'r Cyngor ati o ran y cyflwyniad nesaf yno yn 2013:

Cadwn yr alwad agored ond cyfyngwn arni ar gyfer 2013 a'r dyfodol rhagweladwy i restr o wahoddedigion ymhlith orielau a sefydliadau celfyddydol gweledol, Rhwydwaith Celfyddydau ac Orielau Gweledol Cymru, sy'n cynnwys sector yr orielau a ariennir yng Nghymru y mae'r Cyngor eisoes yn buddsoddi ynddo.

Hefyd cais y Cyngor ddatblygu'r model partneriaethol hwn drwy ddwyn ag Amgueddfa Cymru ac Artes Mundi i mewn i'r prosiect drwy gyfrwng ei Banel Ymgynghorol.

Y nod yw meithrin perthynas rhwng y prosiect ac oriel yng Nghymru ac ar y llwyfan rhyngwladol yn Fenis a gallu hybu gwaith rhyngwladol yr oriel a rhwydwaith y celfyddydau gweledol yng Nghymru. Darpara'r arddangosfa hefyd lwyfan priodol yng nghyhoeddiad cam nesaf Artes Mundi y flwyddyn ganlynol. Yn y cyfnod yn sgil y dangosiad yn Fenis bydd rhagor o ymwneud mwy ffurfiol â'r Amgueddfa. Mae'r Amgueddfa'n ymrwymedig i ddilyn i fyny'r arddangosfa rywsut.

Dibynna'r datblygiad ar natur pob arddangosfa, ond gallai feddwl arddangos, prynu neu gomisiynu neu gyfuniad o'r rhain yn sgil y Biennale. Yn y model hwn arddangosai'r oriel gynnal yng Nghymru waith yr artist a ddewisir neu rywbeth cysylltiedig â'r rhaglen yn Fenis rywsut.

Ceisir cynigion ar gyfer Biennale rhif 55 yn awr oddi wrth y rhwydwaith oriel a bydd trafodaeth a chyflwyniadau gan Bwyllgor Ymgynghorol Fenis y Cyngor ac ar ei gyfer. Cytuna'r Pwyllgor ar y cynnig curadurol/artistig o'r cyflwyniadau. Gofynnwyd i orielau gyflwyno cynigion erbyn 30 Ebrill 2012. Cyhoedda'r Cyngor ei benderfyniad am gynnig Cymru i arddangosfa 2013 ar ddechrau Mehefin.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu geisiadau am wybodaeth ar ddyfodol Cymru yn Fenis at David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru.

david.alston@celfcymru.org.uk

07929344857

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245