Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Cyngor Prydeinig: mae'n gweithio i hyrwyddo gwybodaeth am ddiwylliant cyfoes o Gymru ac i annog cyfnewid a chydweithio rhyngwladol. Trwy gyfrwng ein prosiectau a mentrau, ein nod ydy helpu adeiladu cyd-destun rhyngwladol deinamig i'r celfyddydau yng Nghymru.
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gweithio i hyrwyddo a datblygu arfer broffesiynol ar draws pob ffurf ar gelfyddyd, gan ddarparu gwybodaeth am y celfyddydau yng Nghymru i sefydliadau diwylliannol ac ymarferwyr tramor a chefnogi cyfleoedd rhyngwladol trwy ein rhaglenni a chynlluniau ariannu.
Sefydlwyd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ym 1997 gan gydnabod mai'r ffordd orau i hyrwyddo proffil Cymru dramor a datblygu gwaith rhyngwladol fyddai trwy gyfrwng asiantaeth ar y cyd gan gynnig un man hygyrch ar gyfer cyflwynwyr, rhaglenwyr ac ymarferwyr fel ei gilydd.
Ymweld â gwefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Cysylltu
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
Plas Bute,
Caerdydd,
CF10 5AL
DU
ffôn: +44 (0)2920 441367
ffacs: +44 (0)29 2044 1400
ebost: info@wai.org.uk