Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi adnabod 'portffolio' o sefydliadau sy'n cael cyllid refeniw a fydd yn ganolog i strategaeth Cyngor y Celfyddydau yn y dyfodol i ddatblygu'r celfyddydau yng Nghymru.
Cyhoeddwyd canlyniad yr Adolygiad Buddsoddi yn y ddogfen Adnewyddu a Thrawsnewid. Fel rhan o hyn, rydym wedi adolygu sut yr ydym yn cefnogi celf gyhoeddus yng Nghymru. Byddwn yn gosod fframwaith newydd i ddatblygu celf yn y maes cyhoeddus.
Ymgynghoriad - Datblygu Celf Gyhoeddus
Datblygu Celfyddyd Gyhoeddus - Crynodeb o'r ymgynghoriad a'n hymateb
Yn y dyfodol, byddwn yn:
- ailffocysu’r rhaglen breswyl i artistiaid (a weithredir ar hyn o bryd gan raglen Stiwdio Safle) – byddwn yn ail-gydio yn hon yn fewnol a’i chyflwyno rhwng 2011-14 drwy drefniadau gyda’n rhwydwaith o orielau a lleoliadau
- hyrwyddo ac egluro gwerth celfyddyd gyhoeddus - byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn hyrwyddo amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae gan Gyngor y Celfyddydau drefniadau sydd wedi hen ennill eu plwyf ar gyfer cysylltu a chydgynllunio â’r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Byddwn hefyd yn cynnwys porthol newydd ar ein gwefan fydd yn rhoi gwybodaeth ac arferion da
- ‘galluogi’ cyfleoedd newydd - byddwn yn sicrhau bod prosiectau posibl newydd yn cyd-fynd â’r nifer cynyddol o ymarferwyr llawrydd gwybodus yng Nghymru
- annog cydweithio creadigol ar draws meysydd Celfyddyd Weledol a Chymhwysol, Pensaernïaeth, Dylunio a’r Amgylchedd
Nôl at ein Ffurfiau ar Gelfyddyd >>