Beth mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n ei wneud ar wahân i ariannu'r gwaith o gynhyrchu a darparu gweithgarwch celfyddydol?
Er bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyfrifol am gyllido a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru, mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu arian y Loteri i'r celfyddydau yng Nghymru. Dyrennir cronfeydd y Loteri Genedlaethol i'r Cyngor gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llundain.
Er 1 Gorffennaf 1999, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n darparu arian i Gyngor Celfyddydau Cymru i ariannu'r celfyddydau yng Nghymru ac, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad, mae'r Cyngor yn atebol i'r Llywodraeth am y ffordd y mae'r arian hwn yn cael ei wario.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cydweithio â llawer o bartneriaid wrth gyflawni ei gyfrifoldeb cenedlaethol am ddatblygu ac ariannu'r celfyddydau yng Nghymru a chynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar faterion sy'n gysylltiedig â'r celfyddydau. Wrth gyflawni eu nodau i'r celfyddydau yng Nghymru, mae'r Cyngor yn ddyledus i'w partneriaid ym maes y celfyddydau proffesiynol, cymunedol a gwirfoddol, awdurdodau lleol a sectorau eraill am eu cydweithrediad a chyfraniadau hanfodol.
Mae Swyddogion Datblygu'r Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru ar gael i gynghori ar y canlynol wrth gefnogi'ch cais am gyllid:
- Marchnata: Mae "Rhowch Hwb i'ch Perfformiad" yn arweiniad cam wrth gam i ysgrifennu cynllun marchnata ar gyfer eich prosiect ac mae'n cynnwys templed y gallwch ei ddefnyddio i wneud cais am gyllid.
- Polisi a Chanllawiau Diogelu Plant a Phobl Ifanc: mae'r ddogfen hon yn rhoi manylion am ymrwymiad Cyngor Celfyddydau Cymru i ddiogelu lles plant a phobl ifanc sy'n cyfranogi yn y celfyddydau, gan gynnig cyngor i sefydliadau cleient ar ddatblygu polisi priodol.
- Canllawiau Polisi Cyfle Cyfartal: mae'r ddogfen hon yn cynnwys copi o Bolisi Cyfle Cyfartal Cyngor Celfyddydau Cymru ei hun, yn ogystal â chanllawiau ar gyfer sefydliadau gwirfoddol bach a pholisi enghreifftiol.
- Strategaeth y Celfyddydau ac Anabledd: yn dwyn y teitl "Symud Ymhellach Ymlaen", mae'r ddogfen hon yn manylu ymrwymiad Cyngor Celfyddydau Cymru i weithredu polisi sy'n hybu mynediad cyfartal ar gyfer pobl anabl i ddigwyddiadau celfyddydol.
- Pecyn Cymorth yr Iaith Gymraeg: mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi creu Pecyn Cymorth yr Iaith Gymraeg i gleientiaid sy'n dymuno ehangu eu defnydd o'r iaith ym maes y Celfyddydau. Mae'r Pecyn Cymorth yn cynnwys manylion am sawl asiantaeth sy'n arbenigo ar ddarpariaeth yn yr Iaith Gymraeg.