Yn 2005, llwyddodd Stiwdios Clai Fireworks i dderbyn un o Grantiau Cyfalaf y Loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Er nad yw'r mathau hyn o grantiau ar gael bellach, mae'r astudiaeth achos hon yn enghraifft o sut y gall cyllid cychwynnol sbarduno ystod eang o brosiectau, partneriaethau a datblygiadau mewn sefydliad celfyddydol.
Sefydlwyd Stiwdios Clai Fireworks yng Nghaerdydd ym 1995 gan chwech o raddedigion cerameg a oedd i gyd yn edrych i gyfnerthu a chefnogi'i gilydd yn eu cynnig i ymsefydlu fel artistiaid gweithredol. Dros y tair blynedd ar ddeg diwethaf, nid yn unig y mae'r gydweithfa, a ddechreuodd gydag ychydig iawn o adnoddau a chyfarpar, wedi goroesi, ond mae wedi troi'n stiwdios sefydledig ffyniannus. Bellach yn rhoi lle i ddau artist ar bymtheg, hon yw'r gydweithfa fwyaf o'i bath yn Ewrop ac mae ei henw da wedi tyfu yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae Dan Allen, aelod sefydlu a chadeirydd tan 2007, yn priodoli llwyddiant Fireworks i ddau beth: "ei thwf cyson a chymedrol ac egni ac ymrwymiad ei haelodau. Detholir aelodau nid yn unig ar sail cryfder ac amrywiaeth eu hymarfer, ond ar eu gallu a'u parodrwydd i ddal ati i yrru'r grŵp yn ei flaen. Mae pob un o'r aelodau yn y gorffennol a'r presennol wedi buddsoddi llawer o'u hamser a'u hegni wrth ddatblygu'r gydweithfa. Yn groes i bob cyngor proffesiynol, mae'r aelodau hyn nid yn unig wedi profi y gall cydweithfaoedd fod yn hynod lwyddiannus, ond wedi helpu egin-artistiaid niferus i sefydlu eu gyrfaoedd na fyddent fel arall wedi llwyddo."
Yn 2005 aeth Fireworks at Gyngor Celfyddydau Cymru am Grant Cyfalaf o gronfa'r Loteri. Mae Virginia Graham, aelod o Fireworks er 2000, yn egluro pam:
"Am y degawd hyd at 2005 roedd Fireworks wedi gweithio'n dda. Roedden ni wedi'n codi ein hunain o ddim byd bron i ddod yn grŵp o artistiaid a oedd wedi'i hen sefydlu ac yn uchel ei barch, ond roedd ein cyfleusterau a'n cyfarpar yn dechrau pallu. Roedd ein hunig odyn a rennid gan bawb ar ddarfod ac nid oedd gweddill ein cyfarpar - y rhan fwyaf ohono'n ail-law neu yn drydedd law pan gawson ni afael ynddo fo - bellach yn ateb y gofyn ac yn sicr, nid oedd yn mynd i ddenu'r artistiaid gorau i ymuno â'n grŵp am yn hir iawn.
"Roedd hefyd gennym lawer o gynlluniau i'r dyfodol ond ni allen ni fynd ymlaen â'r rhain oherwydd diffyg arian a chyflwr gwael ein cyfleusterau. Roedden ni am ehangu ac ymgymryd â lle ychwanegol yn ein hadeilad, dechrau rhaglen breswyl ryngwladol a darparu gofod ysgoloriaeth i raddedigion i sicrhau y gallen ni barhau i gyflawni ein nodau cychwynnol - i feithrin a hwyluso dawn yn y frawdoliaeth gerameg. Daeth yn amlwg yn fuan, os oedden ni am oroesi a thyfu i'r dyfodol byddai angen i ni wneud cais am grant oherwydd nad oedd ein dibyniaeth hyd at yr adeg honno ar rent a rhoddion gan aelodau'n mynd i dalu am bopeth roedd ei angen arnon ni.
"Buom yn gwario'r arian a dderbyniwyd gennym ar dair odyn newydd, cyfleusterau chwistrellu cefn gwlyb, cywasgydd mawr a allai gyflenwi aer dan bwysedd ar gyfer offer pweredig i stiwdios unigol ac ailgyfarparu ein stiwdio ffotograffiaeth â chamera digidol newydd, golau a chefnlenni. Roedd gweddill yr arian i'w ddefnyddio i uwchraddio ein cyflenwad trydan ar gyfer yr odynau newydd a gosod corlan rhag tân a ffyrdd echdynnu aer i'n hystafell odyn.
"Er bod y cais am grant a'r gwaith adeiladu/gosod yn broses oedd yn llyncu amser roedd yn werth yr holl aflonyddwch. Erbyn hyn mae gan Fireworks gyfleusterau o'r radd flaenaf sydd nid yn unig o fudd i'n haelodau ond hefyd i bobl y tu allan i'r gydweithfa trwy ein system logi.
"Yn 2007, er mwyn dathlu ein deng mlwyddiant, yn ogystal â chynyddu ein proffil cyhoeddus ac ymwybyddiaeth o'n cynlluniau preswyl, aethon ni ati i drefnu arddangosfa deithio a chyhoeddiad i gyd-fynd â hi. Eto, buom yn troi at Gyngor y Celfyddydau am grant prosiect bach i'n helpu i wneud hyn. Rhoddwyd y £4000 a dderbyniwyd gennym at ddefnydd da gyda'r arddangosfa'n teithio i chwe chyrchfan ar draws y DU, gan gynnwys Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin ac Abaty Nant Teyrnon. Mae'r catalog yn dangos yr hyn rydym yn ei wneud a'r artistiaid rydym yn rhoi lle iddynt ac mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn er mwyn annog ymgeiswyr i ymuno â'n cynlluniau preswyl.
"Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi gallu sefydlu a datblygu ein rhaglenni preswyl, gyda thri gofod yn yr adeilad wedi'u neilltuo at y diben hwn. Gyda help Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gallem bellach roi lle i artistiaid o America ar raglen gyfnewid rhwng Cymru a Stiwdios Clai Philadelphia yn UDA sydd yn barod wedi gweld tri cheramegydd o Gymru'n treulio amser yn yr Unol Daleithiau. Ymunodd yr artist cyntaf, Amy Santoferraro, â Fireworks ar ddiwedd 2008, ac mae'r gwaith a grëwyd ganddi ar ddangos trwy gydol mis Chwefror yng Nghanolfan Gelfyddydau Abaty Nant Teyrnon.
"Cynllun sy'n agored i bob artist rhyngwladol yw ein hail raglen breswyl. Rhaglen breswyl flynyddol sy'n parhau am dri - bedwar mis fydd hi a bydd yn cychwyn gyda cheramegydd o Tsieina, Geng Xue, yn ymuno â ni ym mis Ebrill 2009. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n cefnogi'r prosiect hwn am y tair blynedd nesaf ac maent wedi'n galluogi i greu partneriaethau â sefydliadau eraill yng Nghymru er mwyn cynnig mwy na gofod a chyfarpar yn unig i'r artistiaid preswyl. Bydd Geng Xue yn derbyn help technegol a deunyddiau gan UWIC a Phrifysgol Morgannwg, gofod arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd a chyfleoedd i ddarlithio yr Ŵyl Grochenwyr Ryngwladol yn Aberystwyth. Rydym yn llawn gobaith y bydd y cynllun hwn nid yn unig o fudd i ni yn Fireworks ond hefyd bydd yn dod â cherameg ryngwladol i gynulleidfa ehangach yng Nghymru trwy'r gwahanol bartneriaethau rydym wedi'u creu.
"Mae ein cynllun Ysgoloriaeth i Raddedigion hefyd yn mynd o nerth i nerth gyda'n hail fintai o raddedigion yn cael eu derbyn yn ystod 2008 -09. Cynigir gofod a chyfleusterau i ddau egin-artist am un flwyddyn, gan ddod ag artistiaid dawnus newydd o ledled y DU i setlo a dechrau eu gyrfaoedd yng Nghymru. Rydym yn gobeithio datblygu'r cynllun hwn yn y dyfodol i gynnwys cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol ac i gael cyngor ar yrfaoedd yn ystod eu blwyddyn gyda ni.
"Dros y pedair blynedd diwethaf mae Fireworks wedi mynd o nerth i nerth. Gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru rydym wedi gallu gwireddu ein huchelgeisiau ac erbyn hyn gallwn gynnig cymaint yn fwy i'r frawdoliaeth grefftau ehangach yng Nghymru yn ogystal â chynnig dyfodol mwy sefydlog i'n haelodau."
Am fwy o wybodaeth am Fireworks ewch at:
fireworksclaystudios.org