Cynlluniwyd y wefan hon i fod yn enghraifft o arfer da mewn hygyrchedd gwefannau.
Gallwch weld rhestr strwythuredig lawn o holl dudalennau'r wefan hon ar fap o'r safle; gellir dod o hyd i ddolen ato ar waelod pob tudalen.
Gellir gweld pob tudalen ar ein gwefan yn ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gellir osod eich dewis iaith trwy ddefnyddio'r llithrydd iaith ar ochr uchaf dde unrhyw dudalen.
Ffurflen Gofrestru i Gynhadleddau
Mae'r ffurflen gofrestru wedi ei gosod ar ein gwefan trwy gyfrwng Iframe. Mae hyn yn golygu nad yw ar hyn o bryd yn yn llwyr gydymffurfio â'r safonau hygyrchedd yr ydym yn anelu atynt. Dylai defnyddwyr a effeithir gan hyn, neu sydd ag anghenion mynediad nad ydynt yn cael eu bodloni gan y ffurflen hon, gysylltu â Lowri Jones ar 0845 8734 900 (Minicom 029 2045 1023) er mwyn cofrestru tros y ffôn.
Oriel
I ddefnyddio ein Horiel yn llawn, bydd angen Adobe Flash Player arnoch; gellir ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim ar wefan Adobe.
Tywysir defnyddwyr nad oes ganddynt Adobe Flash Player yn awtomatig at oriel hygyrch amgen.
Lawrlwytho Dogfennau
I ddarllen dogfennau PDF ar y wefan hon, bydd angen arnoch Adobe Acrobat Reader, sydd ar gael i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim o wefan Adobe.
I ddarllen dogfennau Word, defnyddiwch Microsoft Word neu un o'r Syllwyr Word sydd ar gael i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim o wefan Microsoft.
Ailfeintio Testun
Er nad yw'r wefan hon yn darparu modd i ailfeintio testun, gellir llwyddo i gael yr un effaith yn annibynnol trwy ddilyn y canllawiau hyn:
PC / Internet Explorer 6:
O'r ddewislen, dewiswch Golwg a Maint Testun
PC / Internet Explorer 7:
Yn y ddewislen o dan y blwch chwilio, dewiswch Tudalen and point to Maint Testun
PC / porwyr eraill:
Chwyddo maint testun: Dal allwedd CTRL a phwyso +
Lleihau maint testun: Dal allwedd CTRL a phwyso -
Mac / pob porwr:
Chwyddo maint testun: Dal allwedd Command a phwyso +
Lleihau maint testun: Dal allwedd Command a phwyso -
W3C
Ymdrecha'r wefan hon i fodloni meini prawf lefel Dwbl-A Consortiwm W3C - Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 1.0.
Hafan Cyngor Celfdyddydau Cymru