Ein Newyddion Diweddaraf.
Dydd Gwener - 24 Mai 2013
Mae Sherman Cymru yn gwahodd awduron i gyflwyno sgriptiau cyflawn neu olygfeydd o ddeng munud o hyd a geir eu perfformio fel rhan o’u prosiect blynyddol, SgriptSlam Steddfod, yn Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Sir Ddinbych.
Dydd Iau - 23 Mai 2013
Wedi llwyddiant cynllun peilot 2012, mae Menywod Adeg Beichiogrwydd yn falch o’r cyfle i gyflwyno Gravida, gwaith cyffrous newydd wedi ei goreograffu gan Aleksandra Jones.
Dydd Mercher - 22 Mai 2013
Bydd Sherman Cymru’n llwyfannu 3 drama sy’n archwilio pŵer, perthyn ac annibyniaeth, ac a ysbrydolwyd gan gorneli tywyll a mannau agored prifddinas Caerdydd. Tair drama Gymraeg yn cael eu perfformio ar yr un noson yw Trwy'r Ddinas Hon, ac fe’u cyflwynir yn Theatr y Sherman o 25-29 o Fehefin
Dydd Mawrth - 21 Mai 2013
Mae Karen MacKinnon wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Arddangosfa a Gwobr Celfyddydau Gweledol Ryngwladol Artes Mundi.
Dydd Llun - 20 Mai 2013
Cynhelir hyfforddiant preswyl, sef Llunio Perfformiad gan Theatr Hijinx ar y cyd â chwmni Frantic Assembly ar Fehefin 10-12 a 17-22 ym Mae Caerdydd. Cost £200.
I ddathlu canmlwyddiant geni Benjamin Britten, mae Opera Canolbarth Cymru, mewn partneriaeth â Neuadd Gregynog, yn cynnig cyfle unigryw i fod yn rhan o’r bwrlwm drwy gynnal cwrs preswyl byr.
Dydd Mawrth - 07 Mai 2013
Heddiw, mae Artes Mundi, gwobr gelf fwyaf y DU, yn dechrau galwad agored yn fyd-eang am enwebiadau artistiaid ar gyfer ei rhifyn nesaf, Artes Mundi 6.
Dydd Iau - 02 Mai 2013
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a BBC Cymru Wales yn cyhoeddi heddiw gynlluniau am fenter gyffrous ar y cyd – y gyntaf o’i math – sy’n cynnig cyfleoedd newydd i ddarganfod a meithrin talent greadigol yng Nghymru.
Dydd Mercher - 01 Mai 2013
Mae'n hinsawdd economaidd anodd, ond da o beth yw gwybod y pery pobl Cymru i wneud amser a gwario arian i fynychu'r celfyddydau ledled y wlad, yn fwy nag erioed o'r blaen, fel y prawf ein harolygon omnibws eleni.
Dydd Gwener - 26 Ebrill 2013
Prif ŵyl ryngwladol y Celfyddydau Gweledol yw'r Biennale. Sefydlwyd hi ym 1895 ac erbyn heddiw mae dros 300,000 o bobl yn ei mynychu.
Dydd Iau - 25 Ebrill 2013
Bydd Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd – rhaglen mis o arddangosfeydd, dangosiadau, perfformiadau a digwyddiadau ledled y ddinas, sy’n dangos ffotograffiaeth o’r radd flaenaf o bedwar ban byd ac yn rhoi llwyfan pwysig i artistiaid o Gymru a thu hwnt – yn dechrau wythnos nesaf
Dydd Mercher - 24 Ebrill 2013
Mae Theatr Parc a Dâr yn Nhreorci yn parhau â'i dathliadau canmlwyddiant gan fynd â chynulleidfaoedd ar daith ryfeddol drwy ei hanes 100 mlynedd gyda chynhyrchiad cyffrous, Hedfa'r Dychymyg/Flights of Fancy.
Dydd Mawrth - 23 Ebrill 2013
Er gwaethaf ei bod ar gau ar hyn o bryd oherwydd gwaith adnewyddu sylweddol, gall pobl sy'n mynd heibio i adeilad Oriel Glynn Vivian Abertawe ddal i werthfawrogi'r gwaith celf syfrdanol sy'n dyddio'n ôl canrifoedd.
Dydd Llun - 22 Ebrill 2013
Caerdydd fydd y ddinas gyntaf yn y DU i gynnal digwyddiad pedair blynyddol World Stage Design – gŵyl 10 diwrnod yn dathlu’r gorau mewn gwaith cynllunio theatr byd-eang drwy raglen o berfformiadau, arddangosfeydd, gweithdai, sgyrsiau a chystadleuaeth i gynllunio gofod theatr arloesol gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy. Dydd Iau 5 hydd Ddydd Sul 15 Medi 2013. Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, a lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas.
Dydd Mercher - 17 Ebrill 2013
Cerdd Cymru : Music Wales @ Focus Wales Dydd Iau 25 Ebrill a Dydd Gwener 26 Ebrill.
Bwrsari Cyngor Celfyddydau Cymru.
Dydd Llun - 15 Ebrill 2013
Digwyddiad sy'n cyd-fynd â'r Arddangosfa Gelfyddydol Ryngwladol rhif 55 – la Biennale di Venezia.
Dydd Mercher - 10 Ebrill 2013
Bydd rhai o delynorion ifanc mwyaf talentog Cymru yn teithio i Benybont-ar-Ogwr ddydd Sadwrn, Ebrill 13eg i gymeryd rhan yng nghylch terfynol cystadleuthau i ddathlu bywyd a gwaith un o delynorion mwyaf Ewrop
Ym mis Chwefror eleini cyhoeddwyd enwau wyth act gerddorol o Gymru a ddewiswyd i ddatblygu eu gyrfaoedd ar lefel ryngwladol. I ddiweddu eu wythnos gyntaf o hyfforddiant sgiliau uwch, bydd yr artistiaid hynny yn ymgynull yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor nos Wener yma (12 Ebrill) am berfformiad arbennig iawn o gerddoriaeth byd gorau Cymru.
Y bardd a’r perfformiwr Martin Daws yn cael ei gyhoeddi fel Awdur Llawryfog newydd Pobl Ifainc Cymru.
Artistiaid, digwyddiadau, cyfleoedd a mwy.
Tanysgrifiwch yma . . .