Ein Newyddion Diweddaraf.
Dydd Iau - 08 Tachwedd 2012
Bydd drama hir gyntaf cwmni theatr lleol 1.618 The Utah Bride yn teithio Cymru yn ystod mis Tachwedd.
Bydd un o gerddorion mwyaf poblogaidd Cymru, Catrin Finch, yn perfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yr hydref hwn wrth iddi deithio i Aberystwyth, Bangor a Wrecsam.
Dydd Mercher - 07 Tachwedd 2012
Syrcas NoFit State i ailddatblygu adeilad segur yn ganolfan syrcas gymunedol newydd i Gaerdydd.
Dydd Llun - 05 Tachwedd 2012
Stiwdio Weston Iau 8 Tach, 7pm
Mae Artes Mundi 5 yn parhau i ystyried amrywiaeth gyffrous o arferion gwaith arbennig a dynnir o gymuned artistiaid cyfoes rhyngwladol. Ar y rhestr fer eleni mae yna elfennau cyffredin rhwng yr artistiaid ond hefyd gwahaniaethau o ran ffurf, naratif a fframwaith cysyniadol.
Dydd Gwener - 02 Tachwedd 2012
Noson arbennig o fiwsig i ddathlu 10 mlynedd y wobr rhyngwladol a dylanwadol – “The Kenneth Loveland Gift”, a luniwyd i gefnogi cerddorion ifanc talentog.
Daw Darganfod Dawns, gŵyl ddawns flynyddol Casnewydd yn ei hôl y mis yma o 20 – 24 Tachwedd yn cynnwys perfformiadau, gweithdai, arddangosfeydd celfyddydau gweledol, brwydrau dawns a mwy. Eleni welwch chi ddawnswyr dawnus lleol yn perfformio ochr yn ochr â dawnswyr o fri rhyngwladol, wyliwch chi ddawns hynod a ysbrydolwyd gan yr oes a fu a gweld y bois ifanc yn mynd ati o’i hochr hi yn B-Boy Battle! At hynny bydd arddangosfa gyffrous gan Ballet Cymru yn Oriel Gelf Glan yr Afon.
Dydd Llun - 29 Hydref 2012
Bydd croeso brwd i sioe Nadolig boblogaidd Sherman Cymru eleni pan fydd y cwmni’n cyflwyno addasiad cyffrous o Peter Pan.
Dydd Mercher - 24 Hydref 2012
Bydd Lucy Davies, Cynhyrchydd Gweithredol National Theatre Wales ers ei lansio, yn gadael y cwmni i fod yn Gyfarwyddwr Gweithredol yn Theatr y Royal Court, Llundain.
Dydd Iau - 18 Hydref 2012
Gyda phleser y cyhoeddwn gynnal ein cynhadledd flynyddol am y tro cyntaf yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Iau 18 Hydref.
Dydd Mercher - 17 Hydref 2012
Blwyddyn yn unig sydd tan y bydd Cymru yn croesawu WOMEX, sef arddangosfa gerddoriaeth flynyddol fwyaf blaenllaw'r byd, a'r gantores a'r ddarlledwraig Cerys Matthews fydd yn dechrau cyfri’r dyddiau tan WOMEX 13 Caerdydd ddydd Iau yma yn WOMEX eleni yn Thessalonika.
Dydd Gwener - 12 Hydref 2012
Dros gyfnod y Nadolig eleni bydd Sherman Cymru yn teithio sioe Gymraeg a Saesneg i blant. Bydd The Snow Tiger / Teigr Yr Eira ar daith o amgylch De Cymru o fis Tachwedd.
Dydd Mercher - 10 Hydref 2012
Yng Ngwobrau mawreddog Sefydliad Prydeinig Rheolaeth Cyfleusterau nôs Lun 8 Hydref , a gyflwynwyd gan y cyflwynydd teledu a’r awdur comedi Clive Anderson, yng Ngwesty Grosvenor House Llundain, enillodd Canolfan Mileniwm Cymru y brif wobr am Gynaliadwyaeth ac Effaith Amgylcheddol.
Dydd Mawrth - 09 Hydref 2012
Ddydd Gwener diwethaf, y 5ed o Hydref, cafodd Earthfall yr anrhydedd o dderbyn Gwobr Canmol Cymru gan y Sefydliad Marchnata Siartredig am eu hymgyrch farchnata ar gyfer At Swim Two Boys.
Dydd Llun - 01 Hydref 2012
Arddangosfa a Gwobr Rhyngwladol Cymru 2012-2013
Ar ddydd Gwener, 5 Hydref yng ngwesty'r Mercure Holland House yng Nghaerdydd, bydd Earthfall yn cystadlu yn erbyn 15 o frandiau a busnesau mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys Partneriaeth Dewi Sant Cyf, Confused.com a Legal & General am Wobr Canmol yng Ngwobrau Marchnata Cymru.
Dydd Sul - 30 Medi 2012
Eleni, mae Pwyllgor Mis Hanes Pobl Dduon Cymru Gyfan, sy’n cynnwys dros 60 o sefydliadau, wedi dewis y thema - ‘Creu Hanes - Ysbrydoli Cenedlaethau’, wedi’i hybu gan ddigwyddiad rhyfeddol ac ysgogol Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Dydd Mercher - 26 Medi 2012
Mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth wedi lansio Fframwaith Treftadaeth a Chelfyddydau Cadw, wrth ddathlu’r prosiect Crochan a Ffwrnais yn y Senedd.
Dydd Mawrth - 25 Medi 2012
Gan ddefnyddio cyfuniad o symud, cerddoriaeth fyw a thafluniadau fideo rhyngweithiol, bydd y cwmni o Gaerdydd TaikaBox yn arwain y gynulleidfa ar daith hudolus drwy dirweddau digidol anhygoel sy’n bodoli ychydig y tu hwnt i’r corff.
Dydd Iau - 20 Medi 2012
29 Medi - 11 Tachwedd.
Artistiaid, digwyddiadau, cyfleoedd a mwy.
Tanysgrifiwch yma . . .