Bob dydd yn ystod hanner tymor mis Chwefror, cynhaliwyd gweithdai yn y gampfa newydd yn y Drenewydd sydd yng ngofal KIK at bwrpas Rhedeg Rhydd.
Bu cyfranogwyr ar draws Gogledd Powys yn cymryd rhan mewn sesiynau i ddysgu sut i symud yn ddiogel o gwmpas rhwystrau a sut i fod yn gyfrifol wrth redeg yn rhydd yn eu trefi. Hefyd buon nhw’n cymryd rhan mewn gweithdai celfyddydau gweledol gyda Caroline Lowe, Tony Wainwright gyda chefnogaeth Seb Ap-Stewart i ddylunio a phaentio byrddau ac offer rhedeg rhydd er mwyn ailwampio’r gampfa.
Bu rhai pobl ifanc hefyd yn ffilmio’r gweithdai a olygwyd gan Isaac Duckers i greu ffilm wych sydd i’w gweld ar Sianel Youtube Cyswllt Celf.
Cafodd pob un o’r 45 o bobl ifanc gymerodd ran amser gwych, ac mae llawer ohonynt yn awyddus i ddod nôl ac yn disgwyl y cyfle i 'gadw fo fyny!'.
Diolch i staff campfa KIK a Gwasanaeth Ieuenctid Powys am eu cefnogaeth.
Cyswllt Celf oedd yn gyfrifol am reoli’r prosiect, oedd yn bosib diolch i gyllid o gronfa SPLASH CYMRU.