Cyngor Celfyddydau Cymru | Logos ar gyfer Derbynwyr Grant

Logos ar gyfer Derbynwyr Grant

Mae nifer o logos y dylid eu cynnwys ar eich cyhoeddiadau a deunydd cyhoeddusrwydd i gydnabod eich bod yn derbyn arian oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yr union logos sydd i'w defnyddio yn dibynnu ar y math o grant a dderbyniwyd gan eich corff.


I Bawb sy'n Derbyn Grant

Yn ôl ein canllawiau, dylid defnyddio logo Cyngor Celfyddydau Cymru mewn lliw llawn lle bynnag y bo'n bosibl neu mewn du a gwyn os oes rhaid.

Dylai'r logo fod yn glir ac yn ddarllenadwy ac wedi'i osod yn y man mwyaf ymarferol, ond nid ddylid ei newid mewn unrhyw ffordd.

Mae'r lluniau isod yn cynnig dolen i lawrlwytho'r ffeiliau fformat Jpeg (.jpeg) cyflawn o'r logo hwnnw. Ar y dde fe geir ffeiliau fformat Photoshop (.eps) o'r un logo. Dyma'r tri dewis sydd ar gael:


Logo Lliw Tirwedd Logo Lliw Portread
CCC Logo Lliw Tirwedd CCC Logo Lliw Portread
Logo Du Tirwedd Logo Du Portread
Logo CCC Du Tirlun CCC Logo Du Portread
Logo Gwyn Tirwedd Logo Gwyn Portread
CCC Logo Gwyn Tirwedd CCC Logo Gwyn Portread


Llywodraeth Cymru

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Dylai cyrff sy'n derbyn cyllid cymorth grant arddangos logo Cyngor Celfyddydau Cymru ynghyd â logo Llywodraeth Cymru bob amser. Gellir ei osod yn y man mwyaf ymarferol, ond rhaid iddo fod mor flaenllaw â logo Cyngor Celfyddydau Cymru a dylid ei ddefnyddio yn ei ffurf gywir bob tro.

Mwy am ganllawiau brand Llywodraeth Cymru.


I Dderbynwyr Grant Loteri

Dylid cydnabod cyllid Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru trwy arddangos logo y Loteri Genedlaethol ar bob deunydd cyhoeddusrwydd ynghyd â logo Cyngor Celfyddydau Cymru a logo Llywodraeth Cymru.

Mwy am ganllawiau brand y Loteri.


Dernynwyr Arian Amcan 3 Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)

Dylid cydnabod derbyn Arian Amcan 3 Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy arddangos Logo Amcan 3 Cronfa Gymdeithasol Ewrop yr Undeb Ewropeaidd ar eich holl ddeunydd cyhoeddusrwydd ochr yn ochr â logos Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mwy am ganllawiau brand ESF.


Ein holl gyhoeddiadau

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245