Lansiasom Gam 1 o'n rhaglen ddatblygu, Camau Creadigol, yn Nhachwedd 2011 â'r nod o sicrhau creu a chyflwyno ystod ehangach o waith o safon yng Nghymru gan ystod ehangach o bobl.
Cyffro mawr inni yw cefnogi tri artist a thri sefydliad drwy Gam 1. Dilynwch y dolenni isod i weld eu gwaith.
Trafodwn â phobl eraill hefyd syniadau addas i'r rhaglen.
Roedd Camau Creadigol yn ffordd newydd o weithio i ni. Bu'n her o ran sut y meddyliwn am ymarfer y celfyddydau a'n prosesau ein hunain. Cyn ail-lansio'r rhaglen yn 2012/13, bwriadwn ei gwerthuso a phenderfynu ar ffocws y dyfodol gan adeiladu ar ein cyflawniadau hyd yn hyn. Cyhoeddwn fanylion y rhaglen ddiwygiedig yn hwyrach eleni.
Cliciwch ar brosiect isod i gael gwybod sut y mae Camau Creadigol o gymorth i artistiaid gorau Cymru i greu, datblygu a rhannu eu gwaith.