Adroddiadau ar Broffil Ardal - dysgu am eich dalgylch, 2008.
Mae gwybodaeth gywir am y farchnad rydych yn gweithredu ynddi a'r bobl a allai fod am ymgysylltu â'ch sefydliad yn cynnig cipolwg gwerthfawr i unrhyw sefydliad diwylliannol sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa. Gall y wybodaeth yn yr Adroddiadau ar Broffil Ardal helpu wrth gynllunio busnes, cynnal astudiaethau ailddatblygu cyfalaf ac astudiaethau dichonolrwydd, yn ogystal â llunio cynlluniau marchnata a datblygu cynulleidfaoedd.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi prynu 60 o adroddiadau. Gellir prynu copïau ychwanegol o'r adroddiadau am eich ardal ddiffiniedig am £25.00 + TAW. Bydd yr Adroddiadau hyn ar Broffil Ardal ar gael i unrhyw sefydliad sy'n derbyn arian gan Gyngor y Celfyddydau, neu unrhyw sefydliad dielw sy'n gweithio yn sector y celfyddydau a'r sector diwylliant.
Mae'r Adroddiadau ar Broffil Ardal wedi'u llunio gan ddefnyddio nifer o ffynonellau data yn cynnwys Cyfrifiad 2001 ar gyfer y DU ac arolwg Mynegai Grŵp Targed BMRB. Mae pob adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ardal sydd â dalgylch gyrru 30 munud, gan gynnwys:
- proffil demograffig o'r boblogaeth
- nifer a chanran amcangyfrifedig yr oedolion sy'n mynychu digwyddiadau ym maes y celfyddydau
- gwybodaeth am arferion o ran darllen papurau newyddion, perchenogaeth car, defnyddio'r Rhyngrwyd ac ati.
- proffil o gartrefi'r ardaloedd gan ddefnyddio ACORN, sef y system ddosbarthu ar gyfer ffordd o fyw.
I gael copïau o'r adroddiadau ar broffil ardal, anfonwch neges e-bost at ymchwil@celfcymru.org.uk neu ffoniwch Ann Kellaway, Uwch Swyddog Ymchwil a Datblygu Cynulleidfaoedd ar 029 2044 1304
Mae set o nodiadau canllaw sy'n esbonio diben yr adroddiadau a sut i ddefnyddio'r data ar gael i'w llwytho i lawr yma.
Nôl i'n hymchwil diweddaraf >>