Arolwg mawr o grefftau cyfoes ar ddechrau ail ddegawd yr 21ain ganrif yw Crefftau Mewn Oes o Newid.
Mae’n edrych ar le crefftau yn yr economi greadigol a phatrymau gwaith gwneuthurwyr a chrefftwyr proffesiynol eraill.
Mae hefyd yn edrych ar nifer o faterion cynyddol bwysig, gan gynnwys
- gwerth sgiliau crefft a gwybodaeth am grefftau mewn economi lle mae sgiliau ar frig yr agenda;
- effaith technoleg ddigidol ar sector lle y gellid ystyried bod pethau wedi’u ‘gwneud â llaw’ yn ofyniad de facto;
- yr angen cynyddol am sensitifrwydd amgylcheddol; ac ailbrisio gwahanol elfennau bywydau proffesiynol mewn ymateb i’r newid tuag at yrfaoedd portffolio yn yr 21ain ganrif.
Crynodeb o’r prif adroddiad yw’r ddogfen hon, ac mae wedi’i pharatoi ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru.
Crefftau Mewn Oes o Newid - Adroddiad cryno
Gallwch ddarllen yr adroddiad cyfan yn fan hyn.